Hufenfa Tomlinsons â dyledion o dros £17m

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Hufenfa Tomlinsons
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y busnes ei sefydlu 36 mlynedd yn ôl gan y brodyr John a Phil Tomlinson

Mae hufenfa a aeth i drafferthion y llynedd - gan arwain at golli 331 o swyddi - â thros £17m o ddyledion, yn ôl y gweinyddwyr.

Roedd Tomlinsons Dairies, oedd â'i phencadlys yn Wrecsam, yn un o hufenfeydd mwyaf y DU cyn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, PwC fis Hydref diwethaf.

Mewn adroddiad sy'n amlinellu amgylchiadau cwymp y cwmni, dywed PwC bod yr hufenfa £15.6m mewn dyled i fanc HSBC ac £1.8m i Finance Wales Investments - un o gronfeydd rhagflaenydd Banc Datblygu Cymru, sef adain hyd-braich Llywodraeth Cymru.

Mae'n nodi bod hi'n "ansicr" a fydd HSBC yn cael arian yn ôl, a bod "dim" siawns i Finance Wales Investments gael unrhyw ad-daliad.

'Dim cynigion derbyniol'

Dywed yr adroddiad fod yr hufenfa â throsiant blynyddol o tua £50m y 2017, ond bod pethau wedi mynd o chwith wedi cynllun i ehangu'r busnes yn yr un flwyddyn.

Fe wnaeth y cwmni ddyblu maint ei safle yn ardal Mwynglawdd, ac agor canolfan ddosbarthu yn Rhiwabon, gan gynyddu'r capasiti cynhyrchu i fwy na 200 miliwn o litrau.

Roedd y datblygiadau hynny "wedi'u cyllido gan gyfuniad o fenthyciadau, cyllid i brynu offer, grantiau ac ecwiti".

Aeth y cwmni ymlaen i wneud colledion wrth fasnachu yn y ddwy flynedd ddilynol, ond roedd costau ynni a gostyngiad ym mhris hufen hefyd yn ffactorau.

Ers Hydref, mae PwC wedi cysylltu â 58 o brynwyr posib ond yn absenoldeb "cynigion derbyniol" bydd yn rhaid gwerthu'r cwmni fesul rhannau unigol.

Mae disgwyl adroddiad pellach gan y gweinyddwyr ym mis Mai.