Creu tasglu ar ôl colli swyddi hufenfa Tomlinsons Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Tomlinsons Dairies sign

Mae'r llywodraeth wedi sefydlu tasglu i gefnogi tua 200 o weithwyr mewn hufenfa sydd wedi colli eu swyddi.

Ddydd Sul, cafodd ffermwyr wybod na fyddai Hufenfa Tomlinsons yn Wrecsam yn gallu parhau i brosesu eu llaeth.

Mae gan y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam, hefyd safleoedd yng Nghaer ac yn Sir Amwythig, ac mae'n cyflogi 331 o weithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tomlinsons fod "y teulu, cyfarwyddwyr a'r tîm rheoli wedi llorio gyda'r amgylchiadau", a'u bod yn "flin bod hyn yn cael effaith ar gwsmeriaid, cyflenwyr, ffermwyr a'u gweithwyr".

'Hynod siomedig'

Dros y tair blynedd diwethaf mae'r cwmni wedi dyblu maint yr hufenfa yn ardal Mwynglawdd, Wrecsam gan ychwanegu canolfan ddosbarthu yn Rhiwabon.

Galwodd Llywodraeth Cymru'r newyddion yn "hynod siomedig".

Dywedodd ffermwyr sy'n cyflenwi Tomlinsons eu bod wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i gyflenwr arall i brosesu eu llaeth - ond heb eglurhad am y penderfyniad.

Fe wnaeth y cwmni roi enwau tri chwmni prosesu arall all gymryd y llaeth o hyn ymlaen.

Mae dau o'r cwmnïau yma wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cytuno i gymryd llaeth gan tua 20 o ffermwyr sydd wedi eu heffeithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae cwsmeriaid allweddol, y cwmni a'r cyfranddalwyr wedi bod mewn trafodaethau brys i geisio cael pecyn mewn lle i gefnogi'r busnes dros yr wythnosau diwethaf.

"Er gwaethaf ymdrechion i geisio datrys y broblem, roedd y sefyllfa yn annaliadwy erbyn nos Wener.

"Doedd gan y cyfarwyddwyr felly ddim dewis ond atal cynhyrchu llaeth a gwneud cais gweinyddol.

"Fe gafodd penderfyniad ei wneud dros y penwythnos i stopio dosbarthu llaeth nad oedd modd talu amdano unwaith daeth cadarnhad nad oedd modd cael pecyn achubiaeth yn ei le."

'Problemau busnes'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod swyddogion wedi gweithio gyda Tomlinsons dros 18 mis i geisio datrys "problemau busnes".

"Rydyn ni nawr wedi sefydlu tasglu i gydweithio gyda'r staff sydd wedi eu heffeithio gan y cau ac rydyn ni mewn trafodaethau gyda'r undebau a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa gefnogaeth arall sydd angen yn y cyfnod anodd yma."

Dywedodd un gweithiwr oedd ddim am gael ei enwi bod staff wedi eu "llorio" gan y newyddion, gyda rhai yn eu dagrau.

Ym mis Mai 2017 fe wnaeth y cwmni, oedd â throsiant blynyddol o £45m, ddweud ei fod yn creu 70 o swyddi newydd yn dilyn buddsoddiad o £22m.

Dywedodd llefarydd ar ran y gweinyddwyr bod eu meddyliau gyda'r holl weithwyr ar hyn o bryd ac mae cynlluniau wedi'u trefnu i gefnogi'r gweithwyr."