Ysgol yng Ngwynedd i barhau ynghau wedi gollyngiad nwy
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn agor am yr ail ddiwrnod yn olynol ddydd Gwener yn dilyn gollyngiad nwy ar y safle.
Ni wnaeth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon agor ddydd Iau, ac fe fydd hi'n parhau ynghau ddydd Gwener.
Dywedodd y pennaeth, Clive Thomas fod gollyngiad yn y brif bibell nwy sy'n dod i safle'r ysgol, sydd â 875 o ddisgyblion.
Ychwanegodd bod gweithwyr yn credu eu bod wedi canfod ffynhonnell y gollyngiad ac mai'r gobaith yw ailagor i ddisgyblion ddydd Llun.
Cafodd arholiad TGAU oedd i fod yn yr ysgol ddydd Iau ei gynnal yn y ganolfan hamdden gerllaw, ac yr un fydd y drefn ar gyfer arholiad TGAU arall ddydd Gwener.
Dywedodd Mr Thomas ei fod yn ddiolchgar am gydweithrediad yr awdurdod lleol a Chanolfan Hamdden Arfon wrth ddelio gyda'r mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020