Bywyd ar jet preifat yn gofalu am y cyfoethog

  • Cyhoeddwyd
Llinos Roberts tu allan i ddrws awyrenFfynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos wedi teithio'r byd mewn moethusrwydd fel 'attendant' ar awyrennau preifat

Rhedeg siop yn nhref glan môr Penmaenmawr mae Llinos Roberts, ond yn ei bywyd arall mae hi wedi teithio'r byd gyda selebs ac arlywyddion, hedfan jet i mewn i Cairo a dianc rhag chwyldro yn yr Aifft.

Mae Llinos wedi gweithio ers tua 20 mlynedd fel gweinyddes ar awyrennau preifat yn gofalu am westeion cyfoethog, 11 o'r blynyddoedd hynny yn gweithio ar jet preifat dyn busnes o Sharm El Sheikh yn yr Aifft.

Bellach mae hi'n rhannu ei hamser rhwng ei busnes a gwaith llawrydd ar awyrennau.

"Fyswn i'n medru sgwennu llyfr am yr hanesion ond dydan ni ddim i fod i siarad am bethau sydd wedi mynd ymlaen na dweud enwau'r pobl ydan ni'n gario," meddai Llinos.

Maen nhw'n cynnwys pêl-droedwyr, actorion, cantorion, penaethiaid gwledydd a theuluoedd brenhinol.

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Llinos hefyd ei leisens ei hun i hedfan awyrennau bach ac yn ystod y cyfnod yn yr Aifft cafodd dro ar hedfan jet ei bos i mewn i Cairo ("easy-peasy")!

Mae gwaith ar awyren gorfforaethol - corporate flight attendant - yn golygu gofalu am bob manylyn lleiaf i wneud yn siŵr fod y gwestai'n hapus - o brynu'r platiau a'r gwydrau iawn i archebu'r bwyd cywir o fwyty arbennig a chysylltu gyda staff y cleient i wybod pa win maen nhw'n ei hoffi.

Digio Margaret Thatcher

"Mi wnaethon ni gario Margaret Thatcher un tro a dyma hi'n gofyn am ddŵr efo gas ynddo fo," meddai Llinos. "A dyma ni'n syrfio rhywbeth fel Perrier iddi...

"Wel, doedd hi ddim yn hapus. Roedd hi'n dweud fod hwn yn British aircraft felly pam oeddan ni'n syrfio dŵr Ffrengig iddi?

"Felly'r trip nesa wnaethon ni wneud efo hi, wnaethon ni wneud yn siŵr bod gynnon ni sparkling water o'r UK a dim o Ffrainc on board."

Dro arall roedd yna fodel enwog a'i chariad ar yr awyren, ac wedi gofyn i Llinos baratoi'r stafell wely iddyn nhw.

Yn anffodus, mi wasgon nhw'r botwm i alw am Llinos ar ddamwain, ac fe gerddodd i mewn ar olygfa breifat iawn!

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y moethusrwydd y tu mewn i jet preifat

Mae yna rai cleientiaid sy'n gallu bod yn annifyr iawn meddai Llinos - fel y dyn o Rwsia a fytheiriodd arni wedi iddi geisio ei helpu drwy symud ei fagiau siopa.

Mewn sefyllfa felly mae profiad ac aeddfedrwydd yn fantais, meddai Llinos sydd yn ei phumdegau cynnar.

Gyda'i blynyddoedd o brofiad, mae hi bellach yn gallu dewis a dethol pa deithiau i fynd arnyn nhw, gan hedfan ryw ddwywaith y mis - os yn bosib i lefydd braf, heulog, fel y Seychelles!

Gweithio i filiwnydd a dianc o'r Aifft

Yn wreiddiol o Bethel ger Caernarfon, roedd Llinos yn gwybod o oedran ifanc ei bod am weithio ar awyrennau.

Gweithiodd i rai cwmniau hedfan masnachol gyntaf, yna cael ei swydd gorfforaethol gyntaf gyda thywysog yn Saudi Arabia, cyn cael cynnig y gwaith ar jet preifat yn yr Aifft.

Roedd ei chyflogwr yn filiwnydd oedd yn berchen ar weithfeydd nwy ac olew a gwaith dadhalennu dŵr Sharm El Sheikh.

"Fo oedd yn cyflenwi dŵr i bawb yn y ddinas. Hefyd roedd ganddo fo lawer o westai yn Sharm, Cairo a Luxor," meddai Llinos.

Roedd hi'n hedfan ei chyflogwr a'i deulu a'i ffrindiau yn ei jet Falcon 2000 EX i Ewrop a'r Dwyrain Pell ar deithiau busnes ac ar wyliau - roedd ei westeion yn cynnwys aelodau o deulu brenhinol Saudi Arabia a meibion ei ffrind, yr Arlywydd Mubarak.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hosni Mubarak yn arlywydd ar yr Aifft am 30 mlynedd cyn i wrthryfel gael ei wared yn sgil honiadau o lygredd ac yna o ladd protestwyr - fe'i cafwyd yn ddieuog o hynny yn 2017

Roedd arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wedi bod yn wynebu cyhuddiadau o lygredd ers blynyddoedd. Pan gafodd Mubarak ei ddiorseddu gan wrthryfelwyr yn 2011 cael a chael oedd hi i Llinos a'i chyflogwr ddianc o'r wlad.

"Daeth y job i ben yn yr Egyptian Revolution yn 2011. Roedd rhaid inni drio denig allan o'r Aifft.

"Pan wnaeth o i gyd gicio off ges i alwad ganddo fo yn dweud 'You've got 20 minutes to pack whatever you can. We're not coming back'.

"Roedd o'n ffrindiau efo Mubarak, felly guilt by association. Roedden ni ar yr awyren am bump awr yn disgwyl i gael clearance. Roedd o'n cael ffrindiau yn ffonio o Cairo yn dweud eu bod nhw'n cael eu harestio fel roedden nhw'n cyrraedd yn yr airport a'u plêns nhw'n cael eu impoundio.

"Roedd o'n gweiddi arnon ni 'We need to take off, we need to take off!Ond doedden ni ddim yn gallu.

"O'r diwedd dyma nhw'n deud fod gynnon ni flight clearance i fynd a dyma ni'n cymryd take off. Dyma fo'n troi ata' fi a dweud: 'Llinos, once we're over the Mediterranean I need a large whisky' achos roedd o'n poeni y basan nhw'n sgramblo'r jets i ddod ar ein holau ni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn erbyn y llywodraeth yn dathlu ynghanol Cairo yn 2011 pan gamodd Mubarak i lawr, tra roedd Llinos yn dianc o'r wlad

"Mae'r dyn wedi marw bellach ond fe drafaelion nhw ar hyd y byd achos roedd o'n poeni bod pobl yn chwilio amdano fo ond 'nath o setlo yn Sbaen yn y diwedd. 'Nath Interpol ei arestio fo yn Sbaen. Erbyn hynny roeddan ni wedi colli'n gwaith, ac roedd o wedi gwerthu'r awyren."

Nôl adre

Daeth Llinos adref i Benmaenmawr, lle roedd ei rhieni yn byw erbyn hynny, a throi ei hobi o uwchgylchu dodrefn yn fusnes gwerthu dodrefn a chynllunio mewnol - dipyn o newid byd, ond mae hi wrth ei bodd yn gwneud y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos wrth ei bodd yn rhannu ei hamser rhwng uwchgylchu a gwerthu dodrefn yn siop Chien Blanc a'i gwaith ar yr awyrennnau preifat

Mae ei phrofiadau wedi gwneud iddi hi werthfawrogi ei chartref llawer mwy.

Wedi teithio'r byd, sef ei breuddwyd erioed, a gweld sut mae'r hanner arall yn byw go iawn, does unman yn debyg i adref meddai Llinos: "Dwi 'di bod i lefydd ffantastig, llefydd ofnadwy o neis, ond fydd fy nghalon i bob tro yng Nghymru. Dwi'n caru Penmaenmawr a Cymru fydd adra i fi am byth.

Ffynhonnell y llun, Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae awyr lân Cymru, y mynyddoedd a'r traethau cystal ag unman yn y byd i Llinos

"Fysa'n neis cael ychydig bach mwy o haul, ond mae'n helpu os ydach chi wedi bod i ffwrdd a gweld sut mae pobl yn byw mewn gwledydd eraill, mae na fwy o chance ohonoch chi'n bod yn fwy appreciative o'r ardal ydach chi'n dod ohoni.

"Mae hi'n lân ofnadwy yma, mae'r aer yn lân, mae'n saff... mae gynnon ni'r mynyddoedd tu ôl inni neu mae'r traeth yma, sy'n blue flag - mae'n wlad dlws ofnadwy a mae popeth yma."

Wedi dweud hynny, mae Llinos angen gallu dianc i'r haul weithiau ac mae wedi prynu cartref yn Sbaen.

"Fyswn i'n mynd yn wirion dwi'n meddwl taswn i yma drwy'r adag, dyna 'di'r rheswm nes i fynd mewn i'r gwaith yma i ddechrau i gael gweld y byd, a chael fy nhalu i wneud!"

Hefyd o ddiddordeb: