Troi cefn ar fywyd materol i deithio Ewrop mewn fan
- Cyhoeddwyd
"Tua blwyddyn yn ôl oeddan ni yn 'ista ar y soffa, oeddan ni wedi misio'r morgais. A nes i jest dweud wrth gŵr fi, 'Don't you sometimes wish you could just get in a van and drive off?."
Ar ôl y sgwrs honno roedd y syniad ym mhen Jennifer Mansfield, 33 oed, ac sy'n wreiddiol o'r Wyddgrug.
"Wnaethon ni ddim 'neud dim byd amdano fo am ages ond wedyn oeddan ni fatha, ti'n gwybod be, fysa hynna yn really gallu gweithio."
Haf y flwyddyn nesaf fe fydd hi, ei gŵr Ollie, a'i mab 19 mis Charlie yn taflu eu dillad i mewn i fan ac yn crwydro Ewrop.
Gwerthu'r tŷ
"Mae na lot o pressure yn dod efo stwff - talu mortgage a bills.
"A nes i jest penderfynu bod ni ddim isio rhoi fyny efo bywyd dim mwy a rhoi fyny efo'n hamgylchiadau ni. Ac oeddan ni isio cymryd control yn ôl bron.
"Oeddan ni'n teimlo bod ni'n byw ar gyfer pobl eraill trwy'r adeg ac yn gwneud pres ar gyfer talu pawb arall ac oedd 'na ddim byd ar ôl i ni," meddai.
Y bwriad yw gwerthu eu tŷ a phrynu fan er mwyn teithio. Maent yn awyddus i gychwyn yn y gwledydd Sgandinafaidd ac yna theithio i'r Eidal a Groeg.
Ond heblaw am hynny does dim cynllun pendant, nac ychwaith terfyn amser ynglŷn â phryd y byddan nhw'n dod adref.
Mae'n dweud bod yna bosibilrwydd y byddan nhw'n aros mewn gwlad arall.
Adref ar hyn o bryd yw Hastings yn ne Lloegr, a hynny wedi blynyddoedd yn Llundain.
"Oeddan ni isio slofi lawr ar pace bywyd. Mae Llundain yn bubble ei hun. Mae'n wych. Nes i fyw yna am wyth mlynedd. Ond mae'n proper hamster wheel.
"Ac oeddan ni isio slofi lawr a 'da ni wedi gwneud hynna. Mae Hastings yn lovely. Ond mae'n amser cael adventure arall."
Newid gyrfa
Hyfforddwraig bersonol oedd Jennifer. Ond yn 28 oed fe chwalodd ei nerfau. Roedd hi wedi bod yn dioddef o iselder a gor-bryder ers iddi fod yn ei harddegau.
"Yn anffodus oedd yr NHS wedi methu helpu fi. So oedd rhaid i fi ffindio ffordd arall i wella.
"Oeddan nhw basically wedi dweud 'you're depressed, you're going to have it your whole life, you're going to have to learn to cope with it'.
"Ac oedd hwnna ddim yn ddigon da i fi. O'n i ddim yn gweld gwerth mewn byw os o'n i yn gorfod dysgu byw fel hyn."
Ond fe newidiodd ei bywyd, meddai, ar ôl mynd ar gwrs wnaeth ei dysgu i feddwl mewn ffordd wahanol.
Athroniaeth sylfaenol yr hyfforddwr oedd bod angen dysgu o'n profiadau a bod angen taclo unrhyw rwystrau sydd yn ein hatal rhag gwneud hynny.
Ers hynny mae'n dweud ei bod wedi helpu eraill gydag ystod o broblemau, a bellach yn hyfforddi pobl ar y we er mwyn iddyn nhw fyw'r bywyd maen nhw eisiau.
"Dwi'n helpu nhw i ddeffro bron iawn a cymryd pŵer nhw yn ôl fel eu bod nhw yn gallu bod yn y driving seat."
Yn eu barn hi dyw nifer o bobl ddim yn hapus yn eu bywydau ac yn gweithio dim ond i dalu'r biliau ac yn gwario'r cyfan ar bethau materol.
"Mae pobl yn unig iawn. Os ti'n meddwl 30, 40 mlynedd yn ôl pan oedd pawb ar y stryd yn 'nabod ei gilydd ac oeddech chi yn mynd mewn i dai eich gilydd.
"Mae'n hawdd i beidio siarad efo pobl trwy'r dydd mewn rhai swyddi. Ti ar y cyfrifiadur neu beth bynnag. 'Da ni wedi colli y connection yna efo'n gilydd."
Ers symud i Hastings mae'r pâr priod wedi bod yn cael trafferth ymdopi yn ariannol.
Yn Llundain roedd Jennifer yn ennill arian da ond ers dod yn fam, a'r ffaith bod ei gŵr, Ollie yn gerddor sydd heb gyflog sefydlog, mae talu'r biliau wedi bod yn fwy o her.
"Da ni wedi torri 'nôl ar bopeth. Y peth gwaethaf 'da ni wedi 'neud yw rhoi cartref newydd i'n cathod ni achos oeddan ni methu fforddio cadw nhw."
Ond mae'n hyderus y byddan nhw'n medru fforddio byw ar y lon am gyfnod am eu bod hi am barhau i hyfforddi pobl dros y we.
Mae ei chymar bellach hefyd wedi dechrau hyfforddi cerddorion sy'n dioddef o orbryder i allu perfformio ac yn gobeithio gwneud y gwaith yma tra y byddan nhw'n teithio.
Mae ei theulu hefyd yn gefnogol o'i phenderfyniad i fynd i ffwrdd.
"Mae teulu fi wrth eu bodd ac yn meddwl bod o'n really cŵl.
"Ac maen nhw wedi dweud pan da ni'n dod 'nôl gawn ni fyw yn tŷ nhw a neith nhw gymryd y fan am ychydig!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2019