The Book People: 82 o swyddi Bangor yn cael eu colli

  • Cyhoeddwyd
The Book PeopleFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 60 o bobl yn parhau i weithio yng nghanolfan The Book People ym Mharc Menai, Bangor

Bydd 82 o bobl yn colli eu swyddi yng nghanolfan The Book People ym Mangor.

Penodwyd PricewaterhouseCoopers (PwC) yn weinyddwr ym mis Rhagfyr tra bod y cwmni yn chwilio am brynwr.

Ond ni fu'n bosib cael prynwr i'r busnes, ac o ganlyniad bu'n rhaid cael gwared ar 155 o swyddi ar draws y cwmni ddydd Gwener.

Mae 82 o'r rheiny ym Mangor, sy'n golygu mai 60 o bobl fydd yn cael eu cyflogi yno am y tro.

Mae'r cwmni wedi wynebu cystadleuaeth gref gan Amazon a manwerthwyr ar-lein eraill dros y ddegawd ddiwethaf.

Bydd y cwmni - gafodd ei sefydlu yn 1988 yn Surrey - yn parhau i fasnachu ar-lein.

'Amser caled i bawb'

Dywedodd Toby Underwood o PwC: "Mae hyn yn amser caled i bawb sy'n gysylltiedig â'r brand llyfrau poblogaidd.

"Er gwaethaf ein hymdrechion gorau yn ceisio gwerthu'r busnes, nid yw hi wedi bod yn bosib gwneud hynny.

"Felly, gyda chalon drom, rydym wedi gorfod gwneud nifer o ddiswyddiadau heddiw.

"Bydd ein ffocws ar helpu'r rhai sydd wedi'u heffeithio ac i gadw'r wefan yn masnachu tra'n cadw staff am mor hir ag sy'n bosib."