'Lladron yn targedu cŵn bridio gweithio gwerthfawr'

  • Cyhoeddwyd
Heather Buckingham a'i chi, Archie
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Heather Buckingham heb weld ei chi, Archie (yn y llun) ers mis Mawrth 2019

Mae cŵn bridio gweithio gwerthfawr yn cael eu targedu gan ladron yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Dywedodd Cynghrair Cefn Gwlad Cymru ei fod yn rhan o duedd gynyddol yn y nifer sydd ar goll neu sy'n cael eu dwyn.

Ychwanegodd nad yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn mynd yn ddigon pell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Ar hyn o bryd mae dros hanner y cŵn yr adroddwyd eu bod ar goll neu wedi'u dwyn ar wefan dod o hyd i gŵn yn fridiau gweithio fel Labrador, sbaniel a vizsla.

Mae cŵn gwaith yn fridiau sy'n cael eu bridio a'u hyfforddi i gynorthwyo pobl mewn gweithgareddau fel ffermio a chwaraeon maes.

Mae'r deddfau sydd ar waith yn sicrhau bod pob ci yn cael microsglodyn gyda manylion eu perchennog.

Rhian Nowell-Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Nowell-Phillips: 'Angen i'r ddeddfwriaeth gyfredol fynd ymhellach'

"Rydyn ni'n gwybod mai'r bridiau mwyaf tebygol o gael eu dwyn yw bridiau gweithio," meddai Rhian Nowell-Phillips o Gynghrair Cefn Gwlad Cymru.

Dywedodd Ms Nowell-Phillips eu bod yn cael eu targedu oherwydd bod y bridiau mor boblogaidd ac oherwydd eu bod yn "gŵn hyfryd sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac sy'n edrych am ffioedd mor uchel".

Cafodd microsglodynnu cŵn ei wneud yn orfodol yng Nghymru yn 2016 ynghyd â'r angen i gŵn wisgo coler gydag enw eu perchennog.

Dywedodd Ms Nowell-Philips fod hwn yn "gam cyntaf i'w groesawu".

Ychwanegodd: "Mae gwir angen deddfwriaeth sy'n rhoi dannedd i'r hyn a fyddai'n galluogi milfeddygon i sganio cŵn wrth iddyn nhw ddod i mewn i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru i'r person sy'n dod â nhw i mewn."

Byddai hyn hefyd yn ei gwneud hi'n anoddach newid yr enwau ar ficrosglodion "heb unrhyw wiriadau", meddai.

'Diflannu oddi ar wyneb y ddaear'

Collodd Heather Buckingham, o Cross Keys, ger Casnewydd, ei chi Archie ym mis Mawrth wrth gerdded mewn coetir cyfagos.

Mae'n amau ei fod wedi cael ei godi a symud ymlaen er ei fod wedi ei ficrosglodynnu a chael tatŵ o'i rif adnabod.

"Roedd fel petai wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear," meddai Ms Buckingham.

"Mae ganddyn nhw lawer o werth a dwi'n meddwl mai dyna pam mae llawer o gŵn yn mynd ar goll. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn ofalus iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ddeddfwriaeth "wedi cael effaith gadarnhaol" ac wedi "annog perchnogaeth fwy cyfrifol".

"Mae effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei hasesu a byddwn yn ystyried unrhyw welliannau a allai fod yn angenrheidiol."