Galw am dynnu chwip o'r AS Ceidwadol Jamie Wallis

  • Cyhoeddwyd
Jamie Wallis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jamie Wallis gipio etholaeth Pen-y-bont oddi ar Lafur yn Rhagfyr

Mae un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yn galw ar Boris Johnson i dynnu'r chwip oddi ar Aelod Seneddol Torïaidd Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis.

Mae Jess Phillips wedi dechrau deiseb ar-lein yn galw ar y prif weinidog i weithredu yn erbyn Mr Wallis- un o aelodau seneddol newydd y Ceidwadwyr yng Nghymru

Daw hyn wedi i gais rhyddid gwybodaeth ddatgelu fod Mr Wallis, cyn yr etholiad yn gyfarwyddwr ar sawl cwmni oedd yn destun cannoedd o gwynion i adran Safonau Masnach Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais gais am ymateb gan Jamie Wallis a'r blaid Geidwadol.

Fe wnaeth un o'r cwmnïau dan sylw, Quickie Divorce Ltd sy'n masnachu dan yr enw clean-break.co.uk, hysbysebu busnes arall ar ei wefan o'r enw Sugar-Daddy.net

'Tynnu'r chwip'

Roedd y busnes yma yn cynnig rhoi cyfle i bobl ifanc oedd angen arian, gwrdd ag unigolion cyfoethog gan ddweud: "Fe allwn eich cyflwyno i'ch sugar daddy personol er mwyn datrys eich problemau ariannol.

"Yn fachgen neu yn ferch, yn hoyw neu yn hetro, mae yna sugar daddy i chi."

Jess Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Phillips yn galw ar i Boris Johnson weithredu

O ganlyniad mae Jess Phillips, AS Llafur Birmingham Yardley, wedi lansio deiseb yn erbyn Mr Wallis.

Mae'r ddeiseb yn dweud: "Gawn ni fod yn glir, mae 'sugar daddy' yn derm arall am rywbeth hull: menywod yn cael eu hecsploetio gan ddynion pwerus.

"Dylai Torïaid fod â chywilydd o eistedd wrth ochr Jamie Wallis.

"Yr unig ffordd i ddangos nad ydynt yn cymeradwyo ymddygiad fel hyn ydi i dynnu'r chwip."

Fe wnaeth Tonia Antoniazzi AS Llafur Gŵyr gefnogi galwad Ms Phillips.

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Llafur Gŵyr Tonia Antoniazzi hefyd yn galw ar y Ceidwadwyr i weithredu

Dywedodd ei bod hi'n bryderus am Mr Wallis.

"Ryw'n bryderus nad yw'r Ceidwadwyr yn gwneud archwiliad syml ar Google i weld sut bobl yw ei ymgeiswyr," meddai.

"Mae'r blaid geidwadol yn adnabyddus i'r blaid Dorïaid, mae wedi sefyll fel ymgeisydd yn Ogwr yn y gorffennol, a dwi ddim yn credu y dylai pobl fel ef fod yn aelodau seneddol."

Fe wnaeth Jamie Wallis ymddiswyddo o nifer o swyddi fel cyfarwyddwr gwahanol gwmnïau gan gynnwys Quickie Divorce Ltd, ychydig cyn yr etholiad cyffredinol yn Rhagfyr.

Yn ôl Tŷ'r Cwmnïau, mae'n parhau yn unigolyn sydd â chryn reolaeth o'r cwmni, gan fod yn berchen a'r 75% neu fwy o'r hawliau pleidleisio.

Gwnaed cais i Jamie Wallis' a'r blaid Geidwadol am ymateb.

'Camau cyfreithiol'

Fe wnaeth Mr Wallis ddweud wrth wefan BuzzFeed: "Mae archwiliadau ar-lein yn dangos fod gwefan sugar-ddaddy.net wedi ei gofrestru yn 2004 ac wedi rhoi'r gorau i fod yn weithredol yn 2010.

"Mae'n ymddangos fod y gwefan dan berchnogaeth ac yn cael ei rhedeg gan gwmni o'r enw SD Billing Services Limited.

"Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid oes gennyf unrhyw ddiddordebau ariannol, ac nid wyf wedi bod yn gyfarwyddwr ar SD Billing services Limited ac ni allaf wneud sylw ar eu gweithgareddau."

Mae Mr Wallis hefyd wedi gwadu'r wybodaeth sydd wedi ei roi ynglŷn â chwynion i adran fasnachu Pen-y-bont mewn materion yn ymwneud â chwmnïau pan oedd ef yn gyfarwyddwr.

Dywedodd mai nonsens oedd hyn a bod ei gyn-fusnesau yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol.