Simon Hart: 'Dyw'r berthynas ddim wedi torri'
- Cyhoeddwyd
Dyw penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cytundeb Brexit Llywodraeth y DU ddim yn arwydd fod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth wedi torri, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Simon Hart AS ei bod hi yn 'bechod' fod prif weinidog Cymru wedi argymell y dylai ACau bleidleisio yn erbyn y cytundeb mewn pleidlais yn y cynulliad cenedlaethol ond dywedodd ei "fod yn gallu deall yr amgylchiadau."
Ddydd Llun dywedodd Mark Drakeford tra bod yr etholiad cyffredinol wedi setlo Brexit, doedd hynny ddim yn gyfystyr a siec benagored.
Ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth mwyafrif mawr o ASau gefnogi'r mesur fydd yn sicrhau fod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr.
Fe wnaeth Tŷ'r Cyffredin bleidleisio o 330 o 231 o blaid y Cytundeb Gadael, a fydd yn nawr yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi
Yn ôl y modd mae datganoli yn gweithio yn y DU mae'r angen i Gynulliad Cymru a Senedd yr Alban roi cydsyniad i'r cytundeb.
Ond byddai penderfyniad i beidio gwneud hynny ddim yn rhwystro'r Mesur rhag dod yn rhan o gyfraith gwlad.
Ar raglen BBC Politics Wales dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Rwy'n meddwl fod hynny yn bechod. Rwy'n deall yr amgylchiadau.
"Maen nhw wedi egluro'r amgylchiadau yn glir iawn.
"Dyw hyn ddim yn arwydd i i mi fod hyn yn golygu fod y berthynas wedi torri yn derfynol, " meddai.
"Maen nhw wedi rhoi rhai cynigion, fydd dwi'n meddwl, yn cael eu trafod yr wythnos nesaf. Fe fyddant yn cael eu trafod ac yna eu derbyn neu beidio."
Ychwanegodd nad yw'r sefyllfa yn eithriad, gan fod yr un peth wedi digwydd yn yr Alban.
"Yn amlwg byddai'n well pe bai ni wedi mynd yn ein blaenau yn gytûn."
Cronfa Ffyniant Cyffredino
Yn ei gyfweliad fe wnaeth Mr Hart hefyd son am yr arian sy'n dod i Gymru oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi gaddo cyflwyno Cronfa Ffyniant Cyffredinol yn lle rhaglenni cymorth yr UE ar ôl Brexit.
Fel un o rannaf tolaf yr UE fe fydd Cymru wedi derbyn mwy na £5bn o gymorthdaliadau gan Frwsel erbyn 2020.
Roedd gweinidogion y DU wedi addo ymgynghoriad llawn ynglŷn â'r Gronfa Ffyniant Cyffredinol - ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi hyd yma.
Dywedodd Mr Hart y byddai'r manylion "yn ymddangos o fewn wythnosau yn hytrach na misoedd."
Fe fydd rhaglen BBC Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 10:00 dydd Sul 12 Ionawr, ac ar gael ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019