Llywodraeth Cymru i argymell gwrthod cytundeb Brexit

  • Cyhoeddwyd
Drakeford

Dywed Prif Weinidog Cymru y bydd ei lywodraeth yn argymell y dylai ACau wrthod cefnogi cytundeb Brexit Boris Johnson.

Yn ystod ei gynhadledd gyntaf i'r wasg eleni, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yr etholiad cyffredinol diweddar yn "siec wag i Lywodraeth y DU wneud pethau mewn dull y byddai'n niweidio economi Cymru," er fod canlyniad yr etholiad wedi dod â'r ddadl am Brexit i ben.

Mae angen i Gynulliad Cymru a Senedd yr Alban roi cytundeb deddfwriaethol i gynllun gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn iddo ddod yn ddeddf, ond ni fyddai gwrthwynebiad i'r cynllun gan y sefydliadau hyn yn atal Boris Johnson rhag cau pen y mwdwl a gwireddu ei ddymuniad.

Y llynedd fe bleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r Cynulliad o blaid gwrthwynebu'r cytundeb Brexit, ond roedd yn bleidlais symbolaidd yn unig i bob pwrpas.

Mae mwyafrif helaeth Boris Johnson o 80 aelod seneddol yn San Steffan yn golygu na fydd gwrthwynebiad sylweddol i'w gynllun, pa bynnag ffordd y bydd ACau yng Ngaherdydd yn pleidleisio.

Dywedodd Mark Drakeford yn y gynhadledd i'r wasg na fyddai Llywodraeth Cymru yn "rhoi'r gorau i ddadlau o blaid math o Brexit sydd yn amddiffyn buddiannau Cymreig" ac "ni allwn awgrymu fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo mesur Brexit Llywodraeth y DU".

Dim cefnogaeth i ymgyrch newydd

Gwrthododd Mr Drakeford gefnogi ymgyrch newydd i ail-ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor byr. Dywedodd fod angen i lywodraeth y DU feddwl am sut i ddatblygu "perthynas resymol, gynhyrchiol gyda ein marchnad fwyaf a mwyaf pwysig".

Wrth gael ei holi am y ras yn y Blaid Lafur i olynnu Jeremy Corbyn, dywedodd Mark Drakeford, sydd yn arweinydd ar y Blaid Lafur Gymreig, na fyddai'n cefnogi unrhyw ymgeisydd penodol, "achos fel Prif Weinidog mae'n rhaid i chi ddelio gyda phwy bynnag sy'n cael ei ethol".

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i unrhyw arweinydd newydd "gymryd ystyriaeth o faniffestos 2015 a 2019 fel sgriptiau i'w datblygu, nid i'w hanghofio".

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, y dylai Llafur gefnogi'r cytundeb yn lle parhau gyda "mwy o oedi", a bod galwad Mr Drakeford yn dangos bod ei lywodraeth "allan o gysylltiad" gydag etholwyr.