Ambiwlans: Aros 90 munud ar gae pêl-droed mewn tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
CPD Bro Cernyw, Conwy countyFfynhonnell y llun, CPD Bro Cernyw
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r chwaraewr aros ar y cae am 90 munud mewn gwyntoedd cryfion

Bu'n rhaid i chwaraewr pêl-droed oedd yn credu ei fod wedi torri ei ffêr aros ar y cae chwarae am 90 munud mewn gwyntoedd cryfion yn Uwch Aled, Sir Conwy.

Cafodd Elis Vaughan o Lansannan ei anafu ar ôl 25 munud o chwarae yn y darbi rhwng ei dîm a Bro Cernyw yn Llangernyw ddydd Sadwrn.

Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y byddant yn ymchwilio i'r modd wnaethant ymateb i'r alwad 999.

Dywedodd ysgrifennydd Bro Cernyw, Trefor Jones, iddo glywed sgrech wrth i ddau chwaraewr geisio am y bêl.

"Roedd ei goes fel bod o yn y safle anghywir - o ni'n gwybod fod o'n ddifrifol," meddai Mr Jones.

"Cawsom orchymyn i beidio â'i symud - a dyna beth wnaethom ni.

"Fe ddaru ni roi cotiau arno a blanced arbennig i'w gadw yn gynnes."

Fe roddwyd gorau i'r gêm, tra bod y timau yn aros i'r ambiwlans gyrraedd.

Gwyntoedd cryfion

Ond roedd hi'n awr a hanner cyn iddo gyrraedd, meddai Mr Jones.

"Mae hynny yn gwbl annerbyniol, yn enwedig yn y math yma o dywydd."

Roedd rhybudd melyn o wyntoedd cryfion yn yr ardal, gyda choed wedi cwympo a nifer o bentrefi heb drydan.

"Roedd y gwyntoedd yn gryf ofnadwy, a dechreuodd hi fwrw tra o ni'n aros am yr ambiwlans."

"Trwy'r amser roedd y chwaraewr ar y llawr, oherwydd bod ni methu ei symud."

Aed â'r chwaraewr i Ysbyty Glan Clwyd.

'Amser o bryder'

Dywedodd Lee Brooks, cyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'n ddrwg gennym glywed am yr amser bu'n rhaid i'r claf yma aros am ambiwlans ac rydym yn cydnabod y byddai wedi bod yn amser o bryder i bawb.

"Rydym am gael amser i wybod mwy am amgylchiadau'r digwyddiad, ac er mwyn gallu gwneud hynny bydd angen i ni gysylltu gyda'r claf pan mae'n briodol i wneud hynny o ystyried ei anaf.

"Yn y cyfamser, rydym yn anfon ein dymuniadau gorau iddo, ac yn dymuno gwellhad buan."