Gemau cofiadwy ac anghofiadwy Cymru yn y Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney wedi datgan y bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn dychwelyd i chwarae rhai gemau cystadleuol yn y Stadiwm Principality yng Nghaerdydd cyn Euro 2028.
Mae'r penderfyniad wedi hollti barn cefnogwyr sydd wedi arfer gwylio Cymru yn chwarae gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers 14 blynedd.
Dim ond un gêm mae Cymru wedi chwarae yn y Stadiwm Principality ers hynny a'i gwrthwynebwyr nhw oedd Sbaen mewn gêm gyfeillgar.
Y gwyn gan sawl un yw bod y stadiwm sy'n dal 74,500 o gefnogwyr yn rhy fawr a bod yr awyrgylch pan fo Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn yn well o lawer na stadiwm fawr gyda hanner o'r seddi yn wag.
Dyma eich atgoffa felly o gemau cofiadwy ac ambell un y byddwch yn hapus i'w anghofio yn y Stadiwm Principality dros y blynyddoedd.
Cymru 1-2 Ffindir, Mawrth 2000

Cymru yn colli o 2-1 yn erbyn y Ffindir yn y gêm bêl-droed rhyngwladol gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm
Ar 29 Mawrth 2000, fe gafodd hanes ei greu yng Nghaerdydd.
Dyma'r gêm bêl-droed gyntaf i Gymru chwarae yn Stadiwm y Mileniwm fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny.
Colli oedd hanes y cochion y noson honno, a Nathan Blake oedd y Cymro cyntaf i sgorio gôl yn y stadiwm newydd, ond yn anffodus fe sgoriodd i'w rwyd ei hun.
Ryan Giggs sgoriodd unig gôl Cymru ond doedd hynny ddim yn ddigon gyda'r gêm yn gorffen 2-1 i'r Ffindir.
Roedd 65,614 yn y dorf y noson honno.
Cymru 0-3 Brasil, Mai 2000

Cymru v Brasil
Doedd y canlyniad ddim yn un cofiadwy, ond roedd cael Brasil i chwarae yng Nghaerdydd yn bluen yn het Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, y wlad o Dde America enillodd gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Japan a De Korea.
Roedd eu tîm nhw'n llawn o sêr byd enwog, gan gynnwys Cafu, Rivaldo ac Emerson.
Roedd Ryan Giggs yn absennol i Gymru y noson honno, ond fe sgoriodd Brasil dair gôl mewn 10 munud i sicrhau buddugoliaeth o 3-0.
Elber, Cafu a Rivaldo sgoriodd i Frasil gyda'r stadiwm bron yn llawn a'r to ar gau gyda 71,495 yno'n gwylio.
Cymru 1-0 Belarus, Hydref 2001

Buddugoliaeth gyntaf Cymru yn y stadiwm gyda dim ond ychydig dros 10,000 yn gwylio
Doedd hon ddim yn glasur o bell ffordd ond dyma'r gêm gyntaf i Gymru ennill yn y Stadiwm ers dechrau chwarae yno.
Hon oedd eu seithfed gêm yno a dim ond 10,201 oedd yno i wylio John Hartson yn sgorio unig gôl y gêm.
Cymru 1-0 Yr Almaen, Mai 2002

Didi Hamman a Robbie Savage yn gwrthdaro
Dyma un o'r buddugoliaethau mwyaf i Gymru gael yn y stadiwm - ennill yn erbyn yr Almaen
Roedd gan yr Almaenwyr rhai o chwaraewyr gorau'r byd. Oliver Khan oedd yn y gôl, sydd hyd heddiw yn cael ei ystyried yn un o'r gôl-geidwaid gorau erioed.
Robert Earnshaw sgoriodd dros Gymru a hynny ar ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch.
Cymru 2-1 Yr Eidal, Hydref 2002

Simon Davies, a sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn erbyn yr Eidal, ac Andrea Pirlo yn cystadlu am y bêl
Dyma o bosib un o'r gemau enwocaf i Gymru ei chwarae yn y stadiwm.
Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn yr Almaen rhai misoedd ynghynt wedi rhoi hyder i dîm Mark Hughes wrth ddechrau ar eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2004 ym Mhortiwgal.
Wedi buddugoliaeth oddi cartref yn ei gêm ragbrofol gyntaf yn erbyn y Ffindir, Yr Eidal oedd eu gwrthwynebwyr nesaf a nhw oedd y ffefrynnau clir yn mynd fewn i'r gêm.
Mae'r gêm yn chwedlonol. Simon Davies sgoriodd gôl gyntaf Cymru wedi gwaith da gan Bellamy lawr yr asgell dde, ei groesiad yn canfod Davies a'i ergyd bwerus yn curo Gigi Buffon yn y gôl.
Ugain munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Alessandro del Piero i unioni'r sgôr - ei gic rydd yn gwyro oddi ar un o amddiffynwyr Cymru ac yn hedfan heibio i Paul Jones yn y gôl.
Ond, mewn moment sydd wedi aros yng nghof pob cefnogwr pêl-droed Cymru, fe sgoriodd Craig Bellamy wedi 70 munud i ennill y gêm.
Pas John Hartson i lwybr Bellamy, wnaeth ddefnyddio ei gyflymder i gael at y bêl cyn unrhyw un o'r Eidalwyr a gosod y bêl yng nghefn y rhwyd.
Cymru 0-1 Rwsia, Tachwedd 2003

Evseev yn gwisgo'r rhif dau sgoriodd unig gôl y gêm
Gêm yr oedd rhaid i Gymru ennill er mwyn cyrraedd Euro 2004, ond yn anffodus colli oedd ei hanes o 1-0 wedi'i Vadim Evseev sgorio gyda'i ben ar ôl 21 munud.
Cymru 0-2 Lloegr, Mawrth 2011

Frank Lampard yn sgorio o'r smotyn i Loegr
Efallai mai dyma'r gêm wnaeth wneud y penderfyniad yn un hawdd fod Cymru angen symud i Stadiwm Dinas Caerdydd i chwarae ei gemau cartref.
Hon oedd y gêm gystadleuol gyntaf gartref i Gary Speed fel rheolwr.
Colli o 2-0 wnaeth Cymru yn erbyn Lloegr gyda Frank Lampard yn sgorio o'r smotyn a Darren Bent yn sicrhau buddugoliaeth ar ôl dim ond 14 munud o'r gêm.
Doedd Cymru ddim yn chwarae'n dda yn y stadiwm a charfan ifanc newydd o chwaraewyr fel Aaron Ramsey, Joe Allen a Joe Ledley yn cael eu cynnwys yn y garfan.
Dyma'r gêm olaf iddyn nhw chwarae yn y stadiwm am y tro, gan iddyn nhw wynebu Montenegro yn eu gêm ragbrofol nesaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Juventus 1-4 Real Madrid, Mehefin 2017

Bale yn chwarae i Madrid yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr
Er nad gêm Cymru oedd hon, roedd hi'n esiampl ble roedd y Stadiwm a Chaerdydd yn cael ei defnyddio ar gyfer un o gemau mwyaf y byd, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Roedd y digwyddiad yn brawf i weld os oedd y ddinas yn gallu ymdopi gyda chynnal gêm o statws fel hyn.
Daeth canmoliaeth fawr sydd wedi galluogi Cymru i sicrhau rhai o gemau cystadleuaeth Euro 2028.
Juventus a Real Madrid oedd yn chwarae'r noson honno gyda Real Madrid yn ennill 4-1 gyda Cristiano Ronaldo yn cael ei goroni'n seren y gêm a'r Cymro Gareth Bale yn dod oddi ar y fainc i chwarae i Real Madrid.
Cymru 1-4 Sbaen, Hydref 2018

Cymru yn erbyn Sbaen
Daeth y cyhoeddiad y byddai Cymru yn chwarae Sbaen mewn gêm gyfeillgar a hynny yn y Stadiwm Principality yn Hydref 2018.
Ryan Giggs oedd rheolwr Cymru ar y pryd ac roedd tîm Sbaen, gyda Luis Enrique yn eu rheoli, yn llawn o sêr fel Sergio Ramos, Rodri ac Álvaro Morata.
Fe gafodd Gymru wers bêl-droed go iawn gan fynd 4-0 ar ei hol hi yn y gêm gyda'r goliau yn dod gan Alcácer â dwy, Ramos a Bartra.
Gyda munud o'r gêm yn weddill fe sgoriodd Sam Vokes gyda pheniad ond roedd y gêm wedi'i hennill ymhell cyn hynny i Sbaen.
Dyma'r tro olaf i Gymru chwarae yn y Stadiwm Principality gyda'r rhan fwyaf o'r atgofion yn rhai i'w anghofio, a'r dyddiau gwell a rhai mwyaf cofiadwy yn cael eu gweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl