Menyw fu farw mewn tân yng Ngheredigion wedi'i henwi

Roedd difrod sylweddol i'r eiddo yn ardal Bwlch-llan ger Llanbedr Pont Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a fu farw mewn tân yng Ngheredigion ddydd Llun wedi cael ei henwi'n lleol fel Heather Edwards.
Fe gafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r lleoliad ger Bwlch-llan tua 14:15.
Mae dyn 58 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Fe ddywedodd Ceris Jones sy'n cynrychioli ward Llanfihangel Ystrad yng Nghyngor Ceredigion bod y "newyddion trist yma wedi dod fel sioc i ni gyd" a'i bod yn "estyn fy nghydymdeimladau dwysaf tuag at ei theulu a ffrindiau".
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
Dywedodd y gwasanaeth tân fod criwiau wedi brwydro yn erbyn tân oedd "wedi datblygu'n sylweddol" mewn tŷ deulawr sydd ynghlwm wrth ffermdy.
Ychwanegodd bod yr ymdrechion yn fwy heriol gan fod y gwynt yn gryf ar y pryd.
Yn ystod y digwyddiad, fe ddaeth "gwybodaeth newydd i'r amlwg" bod un unigolyn ar goll.
Fe ddaethon nhw o hyd i gorff yn yr adeilad ar ôl i'r tân ddod dan reolaeth, ychwanegodd y gwasanaeth tân mewn datganiad.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y difrod i'r eiddo yn "helaeth" a bod y dyn gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.