Teyrngedau i ddau ddyn ifanc fu farw ar yr A40

Bu farw Aled Coleman (chwith) ac Aled Bowen (dde) yn dilyn gwrthdrawiad yn sir Benfro dydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd dau ddyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.
Bu farw Aled Coleman, 23 oed o Scleddau, ac Aled Bowen, 18, yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A40 rhwng Hwlffordd ac Abergwaun yn oriau mân y bore ddydd Sul.
Bu farw'r ddau a oedd yn teithio yn y car - Volkswagen Polo arian - yn y fan a'r lle.
Dywedodd teulu Aled Coleman ei fod yn berson "gofalgar, caredig a llawn hwyl, fydd yn cael ei golli'n fawr gan ei deulu cyfan".
Dywedodd teulu Aled Bowen eu bod "wedi'n llorio" ar ôl colli "mab annwyl, brawd ac ewythr ymroddedig, a ffynhonnell o gariad a nerth i bawb a oedd yn ddigon ffodus i'w adnabod".
Mae'r llu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl