Gitarydd Sobin a Meic Stevens yn creu cerddoriaeth wedi saib 30 mlynedd

Mered MorrisFfynhonnell y llun, Aled Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mered Morris, ym Mhatagonia

  • Cyhoeddwyd

Teithio Llydaw gyda Meic Stevens, aelod allweddol o'r grŵp roc Rhiannon Tomos a'r Band a chyfnod 'bananas' gyda Sobin a'r Smaeliaid. Mae gan y gitarydd Mered Morris ddigon o straeon roc a rôl.

Ond ar ôl tri degawd o beidio creu cerddoriaeth mae o wedi rhyddhau albwm y flwyddyn ers 2020, a'i sengl ddiweddaraf newydd weld golau dydd. A hynny diolch i annogaeth gan ei ddiweddar wraig.

Does ryfedd bod cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o fywyd Mered Morris yn dilyn ei fagwraeth ym Mangor.

Roedd ei dad a'i fam yn athrawon cerdd, a'i dad yn ffidlwr proffesiynol oedd yn mynd o gwmpas ysgolion yn rhoi cyngherddau er mwyn ysbrydoli plant.

Ond ar ôl cael gwersi ffidil a'r gitâr glasurol, yn ei arddegau fe drodd ei ddiddordeb at roc.

Mered Morris yn yr 1980auFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn yr 1980au roedd Mered Morris chwarae gyda nifer o grwpiau poblogaidd y cyfnod - dyma fo gyda Rhiannon Thomas a'r Band

Yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ar ddiwedd yr 1960au a'r 1970au fe ddysgodd ei grefft drwy wrando ar recordiau Rory Gallagher, Jimmy Hendrix ac Eric Clapton.

Roedd o hefyd wedi bod yn arbrofi recordio gyda pheiriant chwe thrac ei dad, a hynny - yn hytrach na'i radd mewn economeg - wnaeth arwain at swydd fel peiriannydd sain gyda'r BBC.

Roedd o wedi bod mewn band ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cael galwad gan ffrind oedd yn chwarae bas gyda grŵp newydd oedd yn chwilio am gitarydd. Dyma ddechrau Rhiannon Tomos a'r Band, un o'r ychydig grwpiau roc Cymraeg gyda menyw yn brif leisydd.

"Roedd Rhiannon yn cynnig rhywbeth hollol wahanol ar y pryd," meddai Mered. "Doedd hi ddim yn dod o gefndir Eisteddfodol, canu gwerin neu gapel - roedd hi'n syth o'r Blues ac wedi bod yn gwrando ar Janis Joplin felly roedd hi'n hollol wahanol. Roedd hwnnw'n rheswm mawr pam ddaethon ni mor boblogaidd mewn dim amser."

Cloriau dau albwmFfynhonnell y llun, Recordiau Sain
Disgrifiad o’r llun,

Gitâr Mered Morris sydd i'w clywed ar albwm Dwed y Gwir, gan Rhiannon Tomos a'r Band (mae'r gitarydd i'w weld ar y dde ar y clawr) a Gitâr yn y Twll Dan Stâr, gan Meic Stevens

Ar ôl rhyw dair blynedd yn gigio ar hyd a lled Cymru a recordio albwm fe ddechreuodd chwarae gydag un oedd wedi hen ennill ei blwyf yn y sin - Meic Stevens.

Un o'r atgofion mae'n gallu ei rannu ydi mynd ar daith i Lydaw ar ddechrau'r 80au. Ar ôl chwarae nifer o gigs a thynhau eu set, fe wnaeth ffrae arwain at gyhoeddiad gan Meic Stevens cyn gig y noson honno: byddai'r set gyfan yn ganeuon 'ochrau B' senglau Bob Dylan.

Roedd y caneuon i gyd yn ddiarth i'r holl fand - heblaw am y canwr.

"Ro'n i'n sefyll ychydig o flaen Meic, ar un ochr o'r llwyfan, i fedru gweld pa gordiau oedd o'n chwarae," meddai Mered. "Wedyn fyddwn i'n gweiddi'r cord i Mark Cŵn, oedd ar y bas, ac roedd Mark Williams ar y drymiau yn gwneud y gorau oedd o'n gallu. Roedd y gynulleidfa wedi dod i glywed caneuon Meic Stevens ac felly braidd yn anniddig!"

Dro arall, yng nghanol recordio'r albwm Gitâr yn y Twll dan Stâr, fe ddiflannodd Meic wedi iddo gael blaendal - a welodd neb mohono am ddyddiau.

"Aethon ni rownd tafarndai Caernarfon a Bangor yn trio ei ffeindio fo. Yn y diwedd gafon ni hyd iddo fo yn yr Anglesey, Caernarfon, efo'i gitâr ar ei lin a pheint o'i flaen.

"Neshi ofyn 'ti'n ocê i ddod nôl i'r stiwdio i orffen yr albym ma'?'. A ddudodd o 'ie, ocê' fel tasa dim o'i le.

"Unwaith roedd o'n yfed roedd yn shambles a ti'n clywed hynny ar un neu ddau o'r caneuon ar yr albym - ac wedyn mae gen ti'r gwrthwyneb llwyr hefyd.

"Roedda ni un gân yn fyr ar gyfer yr albym a ddywedodd Meic 'ie, ma' 'da fi rywbeth'. Cân i gitâr a llais yn unig oedd o felly wnaethon ni setio fyny'r meics - ac mi recordiodd o Ysbryd Solfach, mewn un take - ac yn hollol wych.

"Roedd yn fraint i fod yn dyst i hynny - ac ar yr adegau hynny roedda ti'n sylwi bod y boi yma yn athrylith."

Sobin a'r Smaeliaid yn perfformio
Disgrifiad o’r llun,

Mered (ar y dde) gyda Bryn Fôn a Sobin a'r Smaeliaid yn 1991. Roedd Mered yn cyfansoddi rhai caneuon i'r grŵp, ac ar gyfer Rhiannon Tomas a'r Band

Fe agorodd Mered stiwdio yn Y Felinheli, sefydlu label Madryn a chynhyrchu a chwarae gyda Bwchadanas.

Yna yn 1988 fe gafodd alwad gan Bryn Fôn oedd yn recordio albwm cyntaf Sobin a'r Smaeliaid ac yn chwilio am gitarydd arall i ymuno â band oedd ar fin dod yn enwog.

"Roedd yn lot o hwyl," meddai. "Roedd yr ymateb yn dda o'r cychwyn ond dwi'n meddwl beth ddigwyddodd, ac mae'n ofnadwy o beth i ddweud, ond be' wnaeth helpu ydi pan gafodd Bryn Fôn ei arestio ar gam (yn ystod ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr). Roedd y band yn boblogaidd yn barod ond waeth hwnna roi turbo o dan yr holl beth.

"Roedd o'n hollol wallgo' a dwi'n teimlo'n hynod o ffodus o fod yn rhan fach ohono fo. Roedda ni mor brysur a'r band yn dod ymlaen yn dda. Doedda ni ddim yn disgwyl dim byd tebyg i be' ddigwyddodd.

"Erbyn y diwedd roedd gen i fwy o gyfrifoldeb yn y gwaith, ro'n i wedi priodi ac wedi bod yn gwneud eitha' lot o waith sesiwn efo Sain ac S4C felly ro'n i'n llosgi dau ben y gannwyll - a'r canol - felly roedd rhaid i fi roi'r gorau i Sobin.

"Ro'n i'n teimlo'n ddrwg am y peth ond roedd hi'n job ar y naw i ffitio bob dim i mewn."

Denise a Mered MorrisFfynhonnell y llun, John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Denise Morris, gyda'i gŵr Mered

Ac felly yn 1992 daeth ei gyfnod o gyfansoddi, recordio, cynhyrchu a gigio i ben am bron i dri degawd.

Yna, saith mlynedd yn ôl fe gollodd ei wraig Denise wedi cyfnod o waeledd, a'i hanogaeth hi sy'n gyfrifol am iddo ail-afael yn ei gerddoriaeth yng nghanol ei alar.

Meddai: "Pan oedd hi'n wael wnaeth hi ddweud 'gwranda, mae'n rhaid i chdi feddwl am be' ti am 'neud pan dwi ddim yma'.

"Dyna'r peth ola' o'n i eisiau meddwl amdano fo ond 'nath hi ddweud 'mae'n rhaid i chdi' a nesh i ddeud 'maen siŵr 'na i wneud mwy efo cerddoriaeth' ond do'n i ddim yn meddwl am ryddhau albym na dim.

"Ond ar ddiwedd y dydd ella bod hynny wedi bod yn rhyw fath o gymhelliad i mi. Mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth a rhoi swyddogaeth a peidio bod yn rhy ddigalon. Tydi o ddim yn sefyllfa o'n i eisiau o gwbl ond ella yn trio gwneud y gorau o sefyllfa anodd iawn.

"Tua chwe mis ar ôl i Denise farw nesh i drio ailgysylltu mewn bywyd a mynd lawr i dde Cymru a gweld lot o hen ffrindiau ac yn hollol annisgwyl wnaeth 'na gwpwl o ganeuon ddod yn sydyn iawn i fi - sydd dim yn digwydd fel arfer - fel tasa nhw wedi bod yn eistedd yn fy meddwl fel petai ac yn barod i'w downloadio."

Bryn Fon, Geraint Cynan a Mered Morris ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Dyfrig Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Perfformio'n fyw gyda Bryn Fôn a Geraint Cynan yn Tafwyl eleni - y tro cynta i Mered rannu llwyfan gyda'r ddau ers 32 o flynyddoedd

Roedd o'n meddwl eu bod yn ganeuon digon da i'w recordio ac felly aeth i'r stiwdio a dechrau arni. Daeth mwy o ganeuon iddo'n weddol rwydd - gan arwain at albwm gyfan.

Fe gafodd Syrthio'n Ôl ei rhyddhau yn 2020 ac mae un albwm y flwyddyn wedi dilyn ers hynny. Ac mae'r cerddor newydd ryddhau sengl newydd Gaiman i Esquel, gafodd ei ysbrydoli gan Batagonia.

Roedd wedi mynd yno ar daith gyda'i hen gyfaill Bryn Fôn a Rhys Meirion a gwirioni ar y bobl, hanes, diwylliant a'r dirwedd.

Bellach mae'r cerddor wedi ail-afael mewn gigio hefyd ac mae o'n gweithio ar fwy o ganeuon i'w rhyddhau yn 2026.

"Mae'n braf bod yn ôl yn creu," meddai. "Ers ail-afael yn y peth mae'n anodd gadael fynd. Mae o fel haint dymunol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig