Ŵyr Sherpa Tenzing yn Eryri i ddathlu'r cysylltiad gyda'r tîm goncrodd Everest

Tashi Tenzing, yng Ngwesty Pen-y-Gwryd, o flaen llun enwog o'i daid Sherpa Tenzing Norgay a Syr Edmund Hillary wedi iddyn nhw fod ar gopa Everest, neu Chomolungma yn iaith Tibet, a Sagarmatha yn Nepali
- Cyhoeddwyd
Mae ŵyr un o fynyddwyr enwoca'r byd wedi ymweld ag Eryri i barhau'r cysylltiad hanesyddol rhwng ei deulu a'r ardal a'u cyfeillgarwch gyda theulu sy'n byw wrth droed yr Wyddfa.
Pan wnaeth Sherpa Tenzing Norgay a Syr Edmund Hillary ddringo Everest yn 1953, fe ddaeth y ddau yn fyd enwog dros nos am fod y rhai cyntaf i goncro mynydd ucha'r byd.
Ond ymhell cyn cyrraedd y copa roedd y tîm oedd yn rhan o'r cyrch wedi treulio cyfnod hir o gynllunio, ymarfer a dod i adnabod ei gilydd ar lethrau'r Wyddfa ac yng Ngwesty'r Pen-y-Gwryd, ger Pen y Pass.

Y tîm yn paratoi am Everest - y mynyddwr Michael Westmacott ym mis Ionawr 1953 yn arbrofi gydag offer anadlu yn Eryri, gan gynnwys ar lethrau Tryfan
Am ddegawdau wedi iddyn nhw gyflawni'r gamp, yn ôl i Eryri a'u hen bencadlys yn y gwesty fydden nhw'n mynd i gyfarfod a hel atgofion.
Ond er bod holl aelodau'r tîm bellach wedi marw, mae eu perthnasau yn cadw cyswllt gyda pherchnogion y gwesty - busnes sydd dal i gael ei redeg gan yr un teulu.
Ac yn ddiweddar fe wnaeth ŵyr Sherpa Tenzing ymweld am y tro cyntaf ers dros chwarter canrif.

Dathlu cyrraedd copa'r mynydd ucha yn y byd gyda phaned o de - Sherpa Tenzing, oedd yn ymgeisio am y copa am y chweched gwaith, gyda Syr Edmund Hillary, o Seland Newydd ar 29 Mai, 1953
Roedd Tashi Tenzing, sy'n rhedeg busnes teithiau o Katmandu, wedi hedfan i dde Lloegr gyda'i waith ac felly fe drefnodd daith i ogledd Cymru gyda'i wraig a dau o'u ffrindiau.
"Mae Gwesty'r Pen-y-Gwryd wedi dod fel ail-gartref a chanolfan i deuluoedd y rhai oedd yn rhan o dîm 1953," meddai wrth Cymru Fyw o Nepal.
"Ar hyd yr holl flynyddoedd roedden ni'n dod at ein gilydd - fel arfer ar 29 Mai. Dwi'n cofio mynd y tro cynta' a chael amser gwych. Mae'n ardal hyfryd efo'r holl fynyddoedd a'r gwesty yn llawn cymeriad efo'r un teulu dal yn ei berchen.
"Roedd mor neis i fod yn ôl yno a gwybod bod pawb yn gwneud yn dda, ac maen nhw'n gwneud cymaint o waith da yn cadw'r hanes mae fy nheulu i wedi bod yn rhan ohono."
Y tro diwethaf iddo fod yno, meddai, oedd i nodi hanner canrif ers concro Everest. Roedd ei daid - Tenzig Norgay - wedi marw ac felly roedd o wedi mynd yno i gynrychioli'r teulu gyda'i ddiweddar fam, sef merch hynaf y mynyddwr, a'i hen ewythr.
Mae'n cofio treulio amser yn sgwrsio a cherdded y mynyddoedd cyfagos gyda'r rhai oedd yn rhan o'r tîm - fel Arglwydd John Hunt a'r awdur Jan Morris, oedd yn rhan o dîm 1953 fel gohebydd The Times - a'r cyntaf i gael y stori allan.

Croeso i'w gwesteion gan berchnogion y gwesty Nick Pullee (ar y chwith) a'i frawd Rupert
Mae'r busnes bellach yn cael ei redeg gan y brodyr Nick a Rupert Pullee. Roedd eu taid Chris Biggs, brynodd y gwesty yn 1947, yn fynyddwr profiadol ac yn rhan o dîm achub mynydd yn yr ardal.
Dywedodd Nick fod ganddo atgofion ers ei blentyndod o'r criw Everest a'u teuluoedd yn cyfarfod, a bod rhai o'r disgynyddion yn dal i gadw mewn cysylltiad - gan gynnwys Tashi.
"Roedd yn braf ei weld o eto a sgwrsio. Wnaeth o ddod â choffi i ni o Nepal, lle mae ganddo blanhigfa. Roedd ganddo lot o atgofion o fod yma ac mae'n braf i gadw'r cysylltiad.
"Dwi'n cofio ei daid o - nes i gyfarfod o ambell waith. Dwi'n cofio fo'n rhoi piggy back i 'mrawd i.
"Pan oedd y tîm yn cael aduniad yma fyddai'r gwesty yn cael ei gau iddyn nhw er mwyn ei gadw'n breifat.
"Roedden nhw'n dod bob dwy flynedd ar y dechrau wedyn bob pump, ac roedden nhw bron i gyd yn dod."

Aduniad 1963 ym Mhen-y-Gwryd. Mae Sherpa Tenzing yn y crys siec coch ar y dde yn y rhes flaen
Cyn teithio i Nepal yn 1953, fe dreuliodd y tîm chwe mis yn yr ardal yn paratoi, gan gynnwys hyfforddi gydag ocsigen ac offer arbennig.
Mae nifer o'r eitemau oedd yn cael eu defnyddio erbyn hyn yn cael eu harddangos yn y gwesty.
Fe wnaeth is-arweinydd y tîm Charles Evans, a fu'n aflwyddiannus yn ceisio cyrraedd y copa diwrnod cyn Hillary a Tenzing, symud i fyw i Gapel Curig, ychydig filltiroedd o Ben-y-Gwryd.

Rhai o'r eitemau yn y gwesty sy'n rhan o hanes mynydda
Ac mae cysylltiad yr ardal gyda rhamant Everest yn atyniad i fynyddwyr.
"Mae 'na gymaint o bethau o'r cyfnod wedi eu cadw yma," meddai Nick.
"Mae teuluoedd (tîm 1953) dal yn cadw'r cysylltiad heddiw ond 'dan ni hefyd yn cael mynyddwyr enwog eraill yn dod yma - mae wedi dod yn dipyn o Mecca i fynyddwyr.
"Roedd hynny'n wir cyn '53 hyd yn oed gyda phobl fel (y mynyddwr) George Mallory yn yr 1920au yn dod i Eryri."

Yn ystod ei ymweliad fe wnaeth Tashi, sydd wedi dringo i gopa Everest dair gwaith, gerdded i gopa'r Wyddfa gyda'i wraig
Ac er bod miloedd o filltiroedd rhwng ei gartref a'r ardal, fe fydd Tashi yn dal i gadw mewn cysylltiad.
Meddai Tashi: "Dydi'r dafarn heb newid dim - ac mae hen gwpan fy nhad yn dal yno.
"Dyna ydi rhan fawr o antur - cynllunio efo'ch gilydd, cyd-weithio ac wedyn dod at eich gilydd i hel atgofion a chadw cysylltiad.
"Yn araf bach, efo amser, mae'r hen aelodau o'r tîm wedi'n gadael ni, ond heddiw rydan ni, y drydedd genhedlaeth, yn dal i hoffi cyfarfod ac mae'n beth hyfryd gallu parhau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai