Organ geg: Yr offeryn bach gyda'r straeon mawr

- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae Dilwyn Ellis Roberts, sy'n byw yn Aberaeron, wedi bod yn chwarae'r organ geg ers blynyddoedd – ers iddo gael ei un gyntaf gan ei daid pan oedd yn blentyn.
"Ges i hen organ geg fy ewythr, oedd yn gwneud cyngherddau, a hynny'n dechrau taith ryfeddol o ran y profiadau dwi 'di cael, a fy nghariad i tuag at yr offeryn.
"Mae'n offeryn hawdd i'w gario o gwmpas, sy'n dda pan ti'n chwarae mewn band."
Ond beth sydd mor arbennig am yr organ geg? Mae Dilwyn yn egluro:
"Mae Charlie Musselwhite – un o'r chwaraewyr gorau erioed – yn dweud ei fod o fel llais, sy'n cyfleu tristwch a hapusrwydd; pob math o emosiynau.
"Mae rhai yn meddwl amdano fo fel offeryn blues, ond gallwch chi chwarae pob math o steiliau. Mae gen i gig efo band sy'n chwarae cerddoriaeth blues ond efo sain Asiaidd. Dwi wedi chwarae efo band blues o Chicago hefyd. Mae 'na amrywiaeth.
"A does 'na ddim byd gwell na chanu alaw werin neu emyn dôn."

Dros y blynyddoedd mae Dilwyn wedi cael profiadau anhygoel yn chwarae'r offeryn, meddai ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, ac wedi chwarae gydag enwau mawr y byd cerddoriaeth:
"Y mwyaf adnabyddus mae'n siŵr ydi Mo Pleasure o Earth, Wind and Fire, oedd yn chwarae bas i Ray Charles pan oedd o'n 18 oed.
"Dwi wedi cael y siawns i chwarae gyda Dave Arcari o'r Alban, ac wedi rhannu'r llwyfan efo fo ac Andres Roots, sy'n dod o Estonia ond yn perfformio rownd y byd. Ges i neges yn gofyn i mi ymuno ar gyfer diweddglo'r noson. Mae'r profiad yna yn byw yn y cof."

Dilwyn yn perfformio ar lwyfan gyda Dave Acari
Ond mae hefyd yn mwynhau chwarae ac yn sgwrsio am yr organ geg gyda ffrindiau, sydd wedi rhoi'r syniad iddo am brosiect arbennig:
"Dwi wedi cyfarfod organyddion ceg ar fy nheithiau ac rydyn ni bron fel clwb bach sy'n cefnogi ein gilydd. Maen nhw'n bobl dwi'n mwynhau mynd i wrando arnyn nhw ac yn mwynhau sgwrsio am yr organ geg gyda nhw."
Mae Dilwyn felly eisiau clywed mwy o straeon ac atgofion am yr organ geg. Roedd chwarae'r offeryn yn arfer bod yn llawer mwy cyffredin, meddai, felly mae llawer o straeon i'w clywed.
"Os fyddwn i wedi byw yn yr 1930au, fyddwn i ddim wedi cael yr un cyfleoedd, achos fod gymaint yn chwarae'r organ gen bryd hynny.
"Ym Mrynaman yn yr 1930au, roedd 'na fand organ geg, ac mae pobl yn aml yn sôn, 'roedd fy nhaid yn chwarae', neu 'mae un dal yn y dresel'. Felly o'n i'n meddwl casglu'r straeon a lluniau.
"O'n i'n gwneud noson un noson am hanes yr organ geg, a daeth rhywun ata i yn dweud am siop chips ym Mrynaman, a byddai rhai o'r organyddion ceg yn dod ar ôl ymarfer band i roi triawd, i gael chips am ddim!"

Geirfa
chwarae / to play
organ geg / harmonica
cyngherddau / concerts
rhyfeddol / astonishing
profiadau / experiences
offeryn / instrument
hawdd / easy
cyfleu / to convey
amrywiaeth / variety
alaw werin / folk song
emyn dôn / hymn tune
anhygoel / amazing
adnabyddus / well-know
perfformio / to perform
ymuno / to join
diweddglo / finale
cyfarfod / to meet
teithiau / travels
cefnogi / to support
cyffredin / common
cyfleoedd / opportunities
casglu / to collect
triawd / trio
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd21 Awst
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf