Eisiau 'cynrychioli pawb' drwy ddawns a theatr

- Cyhoeddwyd
Mae Krystal S. Lowe yn ddawnswraig, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr sydd yn wreiddiol o Bermuda, ond bellach yn byw yng Nghasnewydd.
Yn ei gwaith, mae hi'n ceisio adlewyrchu cymdeithas; yn trafod themâu fel iechyd meddwl a chysylltiad pobl â'i gilydd, ac yn aml yn creu cynyrchiadau aml-ieithog, gyda'r Gymraeg yn rhan ganolog i lawer. Ei hymgais yw i greu gweithiau sy'n cynyrchioli pawb, ac y mae pawb yn gallu gweld eu hunain ynddyn nhw, meddai.
Oeddet ti wastad yn gwybod mai dawnsio oeddet ti eisiau ei wneud?
Roeddwn i'n saith oed pan ddechreuais i ddawnsio. Yn syth bin, roedd symud jest yn gwneud synnwyr i mi; roeddwn i a rydw i'n teimlo'n heddychlon pan dwi'n symud. Dydy siarad ddim yn hawdd i mi, ond dwi'n caru a chysylltu efo symudiad.
Pan o'n i'n 13 oed, ro'n i'n siŵr mod i'n caru ballet, ond achos yn Bermuda mae hi'n gwneud mwy o synnwyr i fod yn actiwari nag yn artist, dim ond pan o'n i'n 21 y gwnes i benderfynu trio dawnsio yn broffesiynol.

'Nes i Googlo 'ballet companies in the UK', a 'nes i ddod o hyd i lawer, ond roedd Ballet Cymru yn sefyll allan i mi achos ei fod yn fach ac yn gwneud llawer o waith allanol ac addysgu, ochr-yn-ochr â'r perfformio.
Bydden i byth wedi dychmygu'r cartref a'r gymuned dwi wedi ei adeiladu yma nag y bydden i wedi aros am 13 blynedd (...hyd yma).
Beth sy'n ysbrydoli dy waith?
Natur; yn Bermuda, dwi'n cael fy ysbrydoli gan y môr anferthol ac yng Nghymru, dwi'n cael fy ysbrydoli gan goed.
Beth sy'n cysylltu Bermuda a Chymru yw'r môr, a dwi'n creu gweithiau ac yn ysgrifennu am y môr.
Mae gen i hefyd ddiddordeb yn y natur dynol a'r nifer o weithiau rydyn ni'n cysylltu gyda'n gilydd fel pobl.
Dwi'n perfformio yn fy ngynhyrchiad aml-ieithog gyda Ballet Cymru, Merched y Môr ar hyn o bryd. Mae'n ailddychmygu stori werin er mwyn canolbwyntio ar y merched yn y stori; y dair fenyw sy'n mynd ar antur, yn dod o hyd i'w gilydd ac yna'n dod o hyd i'r môr. Drwy antur fawr gyda Phobl y Môr, maen nhw'n dod o hyd i ffordd i berthyn i'w gilydd.

Krystal mewn perfformiad o Merched y Môr yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Roedd Remarkable Rhythm am ddau berson sydd angen pethau gwahanol er mwyn cysylltu ac ymwneud â'r byd. Mae ynglŷn â sut ry'n ni'n cwrdd â'n gilydd yn y canol, heb aberthu ein anghenion.
Mae fy ngwaith bob amser yn cynnwys y themâu hunaniaeth, iechyd meddwl a lles, a grymuso (empowerment).
Drwy'r themâu yma, dwi'n anelu i fywyd person gael ei weld a'i ddeall drwy fy ngwaith.
Pa ddarn o waith wyt ti mwyaf balch ohono a pham?
Yn 2024, 'nes i ysgrifennu drama fer ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) o'r enw Aderyn, am berthynas rhwng dwy ddynes sydd ddim wedi bod ym mywydau ei gilydd ers amser hir, ac yn ailgysylltu.
Dwi'n teimlo mwyaf balch o'r gwaith yma, achos mod i wedi ei ysgrifennu'n ddwyieithog.
Dwi wir yn gwthio fy hun i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gen i, hyd yn oed pan dwi ofn gwneud, ac roedd y ddrama yma yn rhoi lle i mi siarad am bynciau eithaf dwfn, fel perthyn a salwch meddwl drwy'r Saesneg a'r Gymraeg.

Krystal yn perfformio gydag Arad Goch yn y Steddfod Genedlaethol
Dyna hefyd oedd fy nhro cyntaf yn gweithio fel cyfarwyddwr gydag actorion yn lle mewn rôl sy'n canolbwyntio ar symudiad. Dysgodd yr actorion, Ceri Bostock a Nadia Wyn Abouayen, gymaint i mi am fod yn gyfarwyddwr a pherfformiwr.
Ac yn y diwedd, ro'n i'n teimlo fod Aderyn y cymysgedd perffaith o symudiad a geiriau. Dwi bendant am weithio ar ddatblygu hon yn ddrama hirach.
Pam ei bod hi'n bwysig i ti i wneud gweithiau sydd yn aml-ieithog?
Mae iaith wedi ei blethu mor dynn gyda hunaniaeth, mae'r ieithoedd rydyn ni'n dewis creu gwaith ynddyn nhw yn cael effaith enfawr ar beth mae'r gwaith yn ei ddweud wrth eraill.
Drwy greu gwaith sy'n cynnwys Iaith Arwyddo (BSL) fel rhan o themâu craidd y cynhyrchiad, dwi'n gallu cynnwys defnyddwyr BSL, ond hefyd gadael iddyn nhw weld eu hunaniaeth eu hunain wedi ei chynrychioli yn y gwaith.

Remarkable Rhythm
Gan mod i'n byw yng Nghymru, mae'n gwneud synnwyr i fy ngwaith gynnwys y Gymraeg. Dwi wedi dod i 'nabod y Gymraeg drwy'r celfyddydau.
Pan dwi'n dweud y gair 'blodau', dwi ddim yn meddwl am y gair 'flowers'; yn lle, dwi'n gweld casgliad o flodau gwyllt yn llenwi'r pafin gyda'u harogl, ac mae'r gair 'blodau' yn dod at fy ngwefusau. Dwi eisiau rhoi hyn i eraill hefyd; ffordd i fwynhau'r Gymraeg heb deimlo'r angen i'w gysylltu â'r Saesneg.
Mae dod â'r dair iaith at ei gilydd wedi bod yn her dda er mwyn ysgrifennu mewn ffordd sy'n golygu fod y stori yn gwneud synnwyr os wyt ti ond yn deall un o'r ieithoedd, yn teimlo'n gyffrous ac aml-haenog os ti'n deall y dair, ac mae'n golygu eich bod yn ymwneud â thair iaith, os ti'n eu deall neu ddim.
Pa brosiectau sydd ar y gweill nesaf?
Dwi'n rheoli prosiect gan Gyngor y Celfyddydau, o'r enw Anabledd a Dysgu Cymraeg. Mae'n ymwneud ag edrych ar sut gall defnyddio ysgrifennu creadigol gefnogi pobl sydd â rhwystrau mewn gwersi Cymraeg, fel pobl anabl.
Ac hefyd cynhyrchiad theatr dawns dwi wedi bod yn ymchwilio iddo ers 2020, o'r enw Interwoven, sydd wedi tyfu o drafodaeth am gysylltiadau dynoliaeth gyda gwallt, a sydd nawr yn edrych ar berthynas merched gyda phoen a phleser.
Mae'n arddangosfa celf a chynhyrchiad theatr dawns byw, a dwi methu aros i'w greu a'i rannu â chynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt.

Interwoven
Dwi'n hollol glir am y cyfeiriad dwi'n anelu yn fy ngyrfa llawrydd; os nad wyt ti, ti'n gallu teimlo fel fod dy yrfa – ac o ganlyniad, dy fywyd – yn nwylo sefydliadau comisiynu a chyrff ariannu.
Fy ngweledigaeth ar gyfer fy ngwaith ydy 'profiadau celfyddydol teg sy'n ein cynrychioli i gyd'.
Gyda phopeth dwi'n ei wneud, os ydi e ddim yn fy ngwthio tuag at gyflawni hyn yna ddylwn i ddim ei wneud.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Awst