Dim hyder yn is-ganghellor Prifysgol Bangor dros 'anhrefn' toriadau - undeb

Cafodd yr Athro Edmund Burke ei benodi yn is-ganghellor yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau undeb yr UCU ym Mhrifysgol Bangor wedi pasio cynnig o ddiffyg hyder yn is-ganghellor a phrif swyddog cyllid y brifysgol.
Yn ôl swyddogion yr undeb, bydd aelodau rŵan yn ystyried gweithredu diwydiannol mewn ymateb i dorri swyddi a chyllidebau sy'n "cael effaith ar iechyd meddwl" gweithwyr.
Ym mis Chwefror fe gyhoeddodd y brifysgol y byddai'n rhaid gwneud arbedion o £15m - oedd yn cyfateb ar y pryd i tua "200 o swyddi".
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau "anodd ond angenrheidiol" er mwyn sicrhau "dyfodol hirdymor y brifysgol".
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd30 Mai
Fel nifer o sefydliadau addysg uwch mae Prifysgol Bangor yn dweud eu bod wedi wynebu heriau cyllid o ganlyniad i effaith chwyddiant, cynnydd treth yswiriant gwladol a newidiadau ôl-Brexit ar y sector.
Ond yn ôl yr UCU, yr undeb mwyaf ar gyfer darlithwyr, hyfforddwyr ac academyddion, mae trafodaethau rhyngddyn nhw a chynrychiolwyr y brifysgol wedi methu yr wythnos hon.
Dywedodd yr undeb hefyd fod cynnig o ddiffyg hyder yn yr is-ganghellor yr Athro Edmund Burke a'r Prif Swyddog Cyllid, Martyn Riddleston wedi ei basio ddiwedd Awst.
'Lot o ddicter o fewn yr aelodaeth'
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd is-lywydd y gangen, Vivek Thuppil fod y toriadau yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl staff a bod y sefyllfa yn "anhrefn llwyr".
"Mae'r staff sy'n weddill dan bwysau enfawr gyda llwyth gwaith ac ma' nhw'n cael eu gwthio i breaking point", meddai Dr Thuppil.
"Mae aelodau yn flin, mae 'na lot o ddicter o fewn yr aelodaeth."
Yn ôl Prifysgol Bangor mae dros 200 o staff bellach wedi gadael y brifysgol naill ai trwy ymddeol, ymddiswyddo neu adael o'u gwirfodd.
Maen nhw hefyd yn dweud bod 10 swydd yn parhau mewn perygl, gyda'r undeb yn rhybuddio bod cynllun i wneud hynny drwy ddiswyddiadau gorfodol.

Mae'r UCU yn dweud eu bod yn poeni y bydd rhagor o ddiswyddiadau yn y dyfodol
Ym mis Chwefror fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £19m yn rhagor yn cael ei roi i gefnogi'r sector addysg uwch ar draws Cymru.
Mae cynrychiolwyr UCU yn dweud bod Prifysgol Bangor wedi derbyn peth o'r gronfa honno, ac maen nhw'n anfodlon na chafodd y cyllid, medden nhw, ei ddefnyddio i achub swyddi.
Mae'r brifysgol yn dweud bod y cyllid wedi ei ddyrannu gan y rheoleiddiwr MEDR a bod rheolau penodol yn y modd oedd yn rhaid ei wario.
Ond mae'r undeb yn mynnu eu bod yn anfodlon.
"'Dan ni ddim wedi'n darbwyllo fod yr is-ganghellor wedi sortio'r broblem yma", meddai Dr Thuppil.
"'Dan ni'n credu y gallan nhw ddod 'nôl gyda rhagor o ddiswyddiadau yn y dyfodol.
"Rydym wedi gofyn iddyn nhw gadarnhau na fydd rhagor o ddiswyddiadau rhwng 2025-26 ond maen nhw wedi gwrthod hynny."
Yn sgil hyn mae'r undeb yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal pleidlais o fewn yr aelodaeth i gynnig gweithredu diwydiannol yn y gwanwyn.
"Mi fydd gennym fandad cryf ar gyfer streicio os oes rhagor o swyddi yn y fantol ac mi fyddwn i allan ar y llinellau piced", ychwanegodd Dr Thuppil.
Penderfyniadau 'anodd ond angenrheidiol'
Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er lles dyfodol y brifysgol.
"Roedd yr ailstrwythuro diweddar yn gam anodd ond angenrheidiol i'n helpu i gyrraedd targedau ariannol a sicrhau arbedion hanfodol.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bwrdd gweithredol wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ac undebau llafur y campws, gan weithio'n galed i osgoi diswyddiadau gorfodol trwy gynnig ffordd i bobl adael yn wirfoddol a thrwy adleoli staff lle bynnag y bo modd.
"Buom yn canolbwyntio, nid yn unig ar leihau costau, ond hefyd ar wella effeithlonrwydd a chreu model gweithredu cynaliadwy a fydd yn cefnogi staff a myfyrwyr mewn cyd-destun lle mae ein hincwm yn is.
"Rydym yn cydnabod bod ailstrwythuro wedi achosi straen ac ansicrwydd i staff a myfyrwyr, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned a'i llesiant.
"Fodd bynnag, roedd yr ymarfer hwn yn rhan anochel a hanfodol o sicrhau dyfodol hirdymor y brifysgol mewn amgylchedd heriol iawn yn y maes addysg uwch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024