Triathlon cyntaf Dilwyn Morgan - yn 67 oed a naw mis ers dysgu nofio

Dilwyn Morgan ar ol bod yn nofioFfynhonnell y llun, Sportpictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y digrifwr a'r cyflwynydd Dilwyn Morgan ar ôl iddo nofio 750m yn Llyn Tegid

  • Cyhoeddwyd

Ddechrau'r flwyddyn doedd Dilwyn Morgan methu nofio, ond mae'r digrifwr 67 oed bellach yn dathlu nofio 750m yn Llyn Tegid i gwblau ei Triathlon cyntaf.

Ac mae 'na reswm arall iddo fod yn falch o'i hun - gan ei fod yn gyn-aelod o'r Llynges a bellach yn gyfrifol am wasanaethau oedolion, iechyd a lleisiant ar gyngor Gwynedd.

Meddai wrth Cymru Fyw: "Roedd hi'n chwythu'n go arw ar y diwrnod, a phobl yn stryglo - mi ro'n i'n stryglo ac yn meddwl 'o dyma ni, dwi'm yn mynd i neud hi.'

"Ond neshi gario mlaen a gorffen a dwi'n bendant am wneud Triathlon arall rŵan, ella trio neud un dwbl hyd yr un yma, ond gawn ni weld."

Roedd Dilwyn, sy'n gynghorydd ac yn cyflwyno ar y radio a theledu, wedi bod yn chwarae rygbi tan iddo roi'r gorau iddo'n 50 oed.

Wedi iddo gael clun newydd fe gafodd rybudd gan y meddygon i beidio rhedeg eto a chadwodd yn heini drwy feicio gyda Chlwb Beicio'r Bala.

Ond bum mlynedd yn ôl, yn sgil bod yn gaeth i'r tŷ yn ystod y pandemig, fe ddechreuodd o redeg.

Meddai: "Dilyn un o'r aps couch to 5km neshi - neshi stryglo efo hwnna. Ro'n i'n cyrraedd wythnos tri ac wedyn yn tynnu mysl, a gorfod stopio. Wnaeth o gymryd pedwar neu bum mis i gyrraedd y 5k. Unwaith roedd rhwyun wedi cyrraedd hynny roedd o'n dod yn haws wedyn."

Dilwyn Morgan yn rhedegFfynhonnell y llun, Sportpictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Dilwyn Morgan redeg 5km a seiclo 20km ar ol nofio'r 750m

Ychwanegodd: "Roedd Siwan, y ferch, yn ysbrydoliaeth, gan fod hi'n redwraig ac yn rhannu'r teimlad llesol roedd hi'n ei gael o fod allan yn yr awyr iach.

"Doedd bod wedi'n cau mewn tŷ dros gyfnod y clo heb helpu neb ohonom, nac oedd! Ond i'r rhai sy'n fy adnabod, petai rywun wedi dweud wrthyn nhw y byddwn i'n cymryd rhan mewn triathlon bum mlynedd yn ddiweddarach; dwi'n gwybod na fyddan nhw wedi credu'r peth."

Ers y cyfnod clo - a chyrraedd y 5km cyntaf - mae o wedi cwblhau 80 ras Pont Y Bala Park Run ar foreau Sadwrn. Mae o hefyd wedi bod yn raddol cynyddu ei bellter ac wedi cyrraedd 10 cilomedr erbyn hyn.

Ac ynghyd â'i feicio roedd wedi dechrau mynd allan gyda chriw lleol oedd hefyd wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y Triathlon Camu i'r Copa yn y Bala, oedd yn digwydd ddechrau mis Medi.

Ond roedd un rhan o'r Triathlon yn boen meddwl iddo - y 750m yn Llyn Tegid.

Wnaeth Dilwyn ddim dysgu nofio pan oedd o'n blentyn gan fod teithio o'i gartref yng Ngarn Fadryn ym Mhen Llŷn i'r pwll nofio agosaf ym Mangor, ddim yn ymarferol i'w rieni yn yr 1960au.

Dilwyn Morgan yn ystod ei gyfnod gyda'r llyngesFfynhonnell y llun, Dilwyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dilwyn, sy'n sefyll ar ben chwith yr ail rês, ar y môr gyda'r Llynges am dair blynedd a hanner

A phan fu'n aelod o'r Llynges, y neges gan swyddog profiadol bryd hynny oedd, "if you fall overboard from this ship, being able to swim won't really help you much, the nearest land is three miles away!"

Ychwanegodd: "Dwi ond wedi dechrau dysgu nofio yng Nghanolfan Hamdden Penllyn yn Y Bala ers mis Ionawr, felly roedd elfen nofio'r triathlon yn fy mhoeni.

"Ar y diwrnod roedd hi'n wyntog ac roedd y tonnau yn Llyn Tegid yn teimlo fel corwynt, o'i gymharu â thawelwch pwll nofio'r Bala.

"Ar ben hynny, roedd 'na 599 o bobl eraill o fy nghwmpas yn cicio a chwifio'i breichiau o'm cwmpas ar ras yn y dŵr.

"Mi o'n i'n ofnadwy o falch o orffen y 750 metr o nofio, rhaid dweud!"

Dilwyn MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dilwyn Morgan yn gynghordd Plaid Cymru yn Y Bala ers 2012, a'i neges ydi: "ewch amdani!"

Yn ôl y cynghorydd roedd y cyfan werth yr ymdrech - ac mae'r ymarfer a'r paratoi yn llesol i'r corff a'r meddwl.

Meddai: "I mi, mae'r elfen o gyd-redeg, nofio a beicio yn hollbwysig. Mae'r gwmnïaeth yn gwneud yr hyfforddi yn hwyl, cael sgwrs efo ffrind, toriad am lymaid ac ysgogi'n gilydd i gyrraedd y nod.

"Mae'r ymarfer at benllanw'r digwyddiad wedi rhoi ysgogiad meddyliol a chorfforol i mi sydd wedi bod yn llesol iawn yng nghanol swydd brysur.

"Fy neges i, i unrhyw un ydi, dydi oedran rhywun yn golygu dim. Os all ryw hen foi fatha fi ei neud o, mi all unrhyw un.

"Ewch amdani a gosodwch her i chi'ch hunain!" Mae 'na rywbeth i siwtio pawb."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig