Gwaith yn dechrau i ddiogelu promenâd Hen Golwyn rhag stormydd

  • Cyhoeddwyd
Damage on the Old Colwyn sea front
Disgrifiad o’r llun,

Mae difrod sylweddol wedi ei wneud i bromenâd Hen Golwyn yn y gorffennol

Bydd y "gwaith angenrheidiol" o gryfhau amddiffynfeydd môr Fictoraidd yn Hen Golwyn yn dechrau ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy y byddan nhw'n gosod wal i gynnal y graig hyd at 2 fetr yn uwch na lefel presennol y promenâd i'w ddiogelu rhag moroedd garw a llanw uchel.

Byddan nhw hefyd yn gwella adran o'r llwybr beiciau o gyfeiriad Llanddulas a chodi'r llithrfa presennol.

Mae'r gwaith yn golygu y bydd y promenâd ar gau am hyd at chwe mis.

Bydd y promenâd ar gau i draffig, beicwyr a cherddwyr o Rotary Way i Beach Road a Cliff Gardens.

'Gwaith hanfodol'

Dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Mae hwn yn waith hanfodol a fydd yn diogelu'r promenâd, y llwybr beics cenedlaethol, a'r A55 a'r pontydd rheilffyrdd.

"Deallwn fod cau'r ffordd yn anghyfleus, ond heb y gwaith hwn, mae siawns uchel y gellid bod angen cau'r promenâd am gyfnod amhenodol ar ôl storm arw."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Storm yn taro amddiffynfeydd Hen Golwyn yn 2017

Ychwanegodd Mr Robbins: "Bydd y wal a fydd yn cynnal y graig yn debyg i'r amddiffynfeydd sydd eisoes yn eu lle yn syth i'r dwyrain o Borth Eirias.

"Bydd y creigiau yn amsugno egni'r tonnau, gan olygu y bydd y tonnau'n rhai llai o faint a bydd yn lleihau pwysau ar y wal fôr Fictoraidd."

Mae'r gwaith gwerth £1.6m yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy'r cynllun Teithio Llesol.

Cam cyntaf y gwelliannau yw hwn.

Mae'r cyngor yn gweithio ar ddyluniad i wella'r promenâd a'r amddiffynfeydd rhag y môr o Borth Eirias i Splash Point, ac yn parhau i chwilio am gyllid ar gyfer y camau hyn yn y dyfodol.