Perygl cau promenâd Hen Golwyn wrth i amddiffynfeydd 'fethu'

  • Cyhoeddwyd
Prom Hen GolwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amddiffynfeydd ger y prom wedi eu disgrifio fel rhai sy'n "methu"

Fe allai promenâd Hen Golwyn gau'n barhaol oherwydd bod yr amddiffynfeydd môr gerllaw yn dadfeilio.

Mewn adroddiad i Gyngor Conwy, mae 1.2km o amddiffynfeydd arfordirol o Borth Eirias i Erddi Cliff yn cael eu disgrifio fel rhai "sy'n methu".

Mae'r amddiffynfeydd yn gwarchod y promenâd, seilwaith Dŵr Cymru, llwybr yr arfordir yn ogystal â rheilffordd gogledd Cymru a'r A55.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cynlluniau i alw uwchgynhadledd gyda Dŵr Cymru, Network Rail a Llywodraeth Cymru i drafod yr amddiffynfeydd sy'n dirywio.

Mae disgwyl fod cost atgyweirio yn amrywio o £2m ar gyfer atgyweiriadau llai i oddeutu 400m o'r wal, i £36m ar gyfer gwaith ar y darn cyfan.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n bwysig bod "pawb sy'n cymryd rhan yn dod o hyd i ffordd gytûn ymlaen".

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gwario rhwng £30,000 a £40,000 y flwyddyn ar atgyweirio'r rheiliau, wyneb y promenâd a'r wal er mwyn atal rhannau o'r amddiffynfa a'r promenâd rhag syrthio.

Ond mae cynghorwyr wedi eu rhybuddio nad yw hynny'n gynaliadwy o ran cost a llafur. Mae'r cyngor eisiau arian gan y cyrff sy'n gyfrifol am y seilwaith i dalu am atgyweirio.

Pan mae llanw'r gwanwyn a gwyntoedd cryfion ar eu hanterth mae'n rhaid i'r promenâd gau am sawl diwrnod, ac mae rhybudd ei bod yn bosib bod rhaid ei gau'n barhaol yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Shane Brennan
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cau'r twneli a'r promenâd yn aml pan fo'r llanw yn uchel yn y gwanwyn neu pan fo'r gwynt ar ei anterth

Fe wnaeth y Cynghorydd Cheryl Carlisle groesawu'r adroddiad: "Rydym wir yn gobeithio y bydd cyfarfod yr holl rhanddeiliaid sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl oherwydd bod y sefyllfa'n mynd yn fwy a mwy dybryd.

"Y dewis arall ydy cau'r promenâd yn barhaol am resymau diogelwch, sydd er lles neb yn y pen draw."

Dywedodd ei chyd-gynghorydd, Brian Cossey: "Rydyn ni wedi dweud dro ar ôl tro wrth Lywodraeth Cymru y bydd methiant tebygol iawn Promenâd Hen Golwyn yn effeithio ar y brif system garthffosiaeth, y rheilffordd a'r A55, ac fe fyddai'n achosi aflonyddwch enfawr i'r preswylwyr ac anrhefn trafnidiaeth."

'Cynllun hanfodol'

Dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins, aelod cabinet sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a chludiant, bod goblygiadau methiant yr amddiffynfeydd yn "hynod arwyddocaol".

Galwodd ar Gyngor Conwy i "ddefnyddio pob llwybr posib i gael cyllid cyfalaf ar gyfer y cynllun hanfodol hwn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd amddiffynfeydd môr cadarn ym mae Hen Golwyn sy'n allweddol i amddiffyn seilwaith a rhwydweithiau.

"Fe fyddai nifer yn elwa o wella amddiffynfeydd môr gan gynnwys Network Rail, Dŵr Cymru a'r awdurdod lleol ac mae'n bwysig bod pawb sy'n cymryd rhan yn dod o hyd i ffordd gytûn ymlaen, gan ystyried y risg a rennir a'r mecanweithiau cyllido mwyaf priodol.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol ac yn aros am eu hadroddiad terfynol a fydd yn egluro'r camau y mae angen eu cymryd i amddiffyn ardal y promenâd."