Tai heb bŵer gyda rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym

  • Cyhoeddwyd
Coeden wedi syrthio ar draws stryd
Disgrifiad o’r llun,

Cwympodd y goeden ar draws ffordd gefn ym Montnewydd

Mae tywydd garw wedi arwain at tua 1,500 o gartrefi i golli eu cyflenwad trydan yng ngorllewin Cymru brynhawn Llun.

Bu 877 o dai yn ardal Aberteifi a 475 o dai yng Nghastellnewydd Emlyn heb bŵer am gyfnod.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gellid disgwyl "cyfnod gwyntog iawn" ddydd Llun, sydd wedi effeithio ar drefniadau teithio mewn ardaloedd.

Mae disgwyl gwyntoedd o 60-70mya ar y glannau ac ar dir uchel a gwyntoedd o hyd at 55mya mewn mannau eraill.

Mae rhybudd melyn yn weithredol rhwng 10:00 a hanner nos ddydd Llun ac yn berthnasol i bob sir yng Nghymru ar wahân i siroedd Mynwy, Fflint, Dinbych a Wrecsam.

Mae rhybudd arall am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng hanner dydd a hanner nos ddydd Mawrth.

RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Mawrth

O ganlyniad i wyntoedd cryf mae coeden wedi disgyn ar draws ffordd gefn ym mhentref Bontnewydd yng Ngwynedd, ac un arall ar draws yr A4086 rhwng Cribyn a Phontrug.

Syrthiodd y goeden ym Montnewydd ar gar oedd wedi'i barcio gerllaw, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu. Mae disgwyl i'r ffordd fod ynghau am 24 awr.

Mae Ysgol Gynradd Bontnewydd wedi cau'n gynnar am fod y goeden wedi syrthio ar linellau pŵer.

Mae dwy ysgol ym Mhenygroes - Dyffryn Nantlle a Bro Lleu - hefyd ynghau oherwydd problemau gyda'r cyflenwad dŵr ar y safleoedd.

Mae Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod eisoes wedi cyhoeddi na fydd ar agor i ddisgyblion ddydd Mawrth oherwydd difrod i do'r adeilad gafodd ei achosi gan wyntoedd cryfion ddydd Llun.

Ffyrdd ar gau

Cafodd yr A55, Pont Britannia, ei chau ar ôl i gerbyd daro'r rhwystr yng nghanol y ffordd ac mae cyfyngiadau mewn grym yno yn sgil gwyntoedd cryf.

Fe gafodd Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd ei chau i gerbydau uchel ac roedd cyfyngiadau ar Bont Hafren brynhawn Llun.

Stena LineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i gwmni Stena ohirio'i wasanaethau fferi dydd Llun

Achosodd y tywydd garw hefyd problemau i gwmni fferi Stena.

Yn ôl ei wefan, cafodd taith gyntaf y Stena Estrid ei ohirio am ddwy awr ar fore Llun ac mae gwasanaethau eraill y dydd wedi'i ohirio.

Rhybuddiodd yr RNLI bod angen i bobl gadw'n ddiogel ger yr arfordir wrth i storm Brendan gyrraedd Cymru, gan ddweud y gall tywydd difrifol wneud y môr a'r arfordir yn "arbennig o beryglus".

Maen nhw'n annog pawb i fod yn "ofalus iawn" os ydyn nhw'n ymweld â'r arfordir, yn arbennig ar hyd clogwyni a'r arfordir.