25 rhybudd llifogydd mewn grym wedi'r tywydd garw
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth coeden ddisgyn ar draws ffordd gefn ym Montnewydd, Gwynedd ddydd Llun
Mae 25 rhybudd llifogydd wedi bod mewn grym ar draws Cymru yn dilyn tywydd garw ddaeth y sgil storm Brendan ddydd Llun.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol fod y mwyafrif o'r rhybuddion oren - sy'n awgrymu y dylid paratoi am lifogydd posib - mewn grym ar gyfer ardaloedd arfordirol yn y de-orllewin.
Mae dau rybudd coch, mwy difrifol, mewn grym - un yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf, rhwng Llangollen a Threfalyn, a'r llall o amgylch Afon Wysg rhwng Aberhonddu a Glangrwyne.
Fe achosodd y storm i 2,000 o gwsmeriaid SP Energy Networks yng ngogledd Cymru fod heb drydan am gyfnod ddydd Llun, wrth i wyntoedd hyrddio i dros 80 cilomedr yr awr.
Dywedodd y cwmni fod timau ychwanegol o weithwyr wedi eu defnyddio i drwsio nam ar gyflenwadau trydan, wrth i broblemau ddechrau gyda'r cyflenwadau am 13:00 ddydd Llun.
Erbyn 19:00 roedd cyflenwad trydan y mwyafrif o'r cwsmeriaid wedi ei ail-gysylltu, ac mae'r cwmni wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Roedd 23 rhybudd llifogydd mewn grym ar unwaith am un cyfnod ddydd Mawrth
Bu tua 1,500 o gartrefi yn ne Cymru heb drydan hefyd am gyfnodau brynhawn Llun.
Mae rhybudd melan am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym gan y Swyddfa Dywydd nes hanner nos, nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020