'Trio bod yn bositif' ar ôl colli clyw
- Cyhoeddwyd
Dechreuodd Ceri Wyn Jones o Abergele gael trafferthion gyda'i chlyw ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn annwyd trwm.
Bellach mae wedi colli dros 85% o'i chlyw yn ei chlust chwith. Fodd bynnag, mae hi eisiau sicrhau nad yw'n ei hatal rhag byw ei bywyd.

'Dechrau teimlo allan ohoni'
Digwyddodd o tua wyth mlynadd yn ôl pan o'n i 'di dechra efo annwyd drwg. O'dd y blocked sinuses 'di achosi i fi gael burst eardrum. Hefyd o'n i'n fflïo bob wythnos gyda gwaith - o'n i'n gweithio fel therapydd harddwch yn Awstralia ar y pryd.
O'dd hyn i gyd wedi achosi gwendid yn y glust chwith.
O'n i'n rhy prowd ac yn 'rhy brysur' i sylweddoli'r newid oedd colli clyw yn ei achosi i mi. Ond mewn digwyddiadau gwaith o'n i'n dechrau teimlo allan ohoni, yn colli hannar sgwrs.
O'n i methu clywed y llythrennau f ac s - o'n i'n eu cymysgu nhw mewn codau post ac yn troi fyny i lefydd anghywir - ac o'n i'n sylweddoli yn y gampfa bod fy malans wedi cael ei effeithio (pan o'n i'n g'neud lunges, o'n i'n siglo fel weeble!)
Ers blynyddoedd dwi 'di mwynhau canu mewn corau a chanu cerdd dant, felly pan nes i symud adra i fyw y peth cynta' o'n i isho 'neud oedd bod yn aelod o gôr eto, ond o'n i'n stryglo i pitchio'r nodau'n iawn.
Dyma pan nes i sylweddoli go iawn mod i angen help.

Roedd Ceri yn mwynhau bod yn aelod o Gôr Alaw, ond roedd ei phroblemau clyw yn golygu ei bod yn cael trafferthion
'Diagnosis anghywir'
Doctor locum welodd fi a rhoi diagnosis o jest ear infection a'r antibiotics anghywir i mi. 'Nath hwn achosi i'r glust fynd yn waeth, achos ches i ddim y driniaeth gywir.
'Naeth o gymryd 12 mis i mi gael gweld consultant. Erbyn hynny, roedd yn rhy hwyr - the damage was done. Roedd yn infection gwael o'r enw otitis externa, 'nath achosi i'r glands ar gefn y pen ac o flaen y glust chwyddo. Roedd y doctor yn flin iawn bod hwn wedi cael ei mis-diagnosio.
'Naeth o anfon fi'n syth i gael prawf clyw, a ges i wybod mai dim ond 12% o glyw oedd gen i ar ôl yn fy nghlust chwith. Roedd gen i ddau opsiwn: a) cael llawdriniaeth i wella'r clyw - gyda 50% o siawns y byddai'n gweithio, ond hefyd 50% o siawns o golli blas ar ochr chwith fy nhafod - neu b) gwisgo cymorth clywed (hearing aid).
Dewisais opsiwn b.

Mae cael cymorth clyw wedi trawsnewid bywyd Ceri
Byw bywyd 'normal'
Dwi wedi bod yn gwisgo hearing aid am 3 blynedd a hanner bellach. Mae'r haint oedd yna wedi clirio, ond achos fod yna lot o greithio ar y glust, mae gen i ofn cael annwyd trwm eto ac iddo fo effeithio'r clustiau.
Dydi nghlyw i ddim wedi gwella, ond mae gwisgo hearing aid yn helpu fi gyda canu efo Ina fach, fy merch 9 mis oed, ac yn gadael i mi fyw bywyd reit 'normal'.
Mae ganddo fo settings gwahanol i helpu mewn gwahanol sefyllfaoedd, fel pan mae lot o bobl yn sgwrsio, er mwyn i mi dallt pwy sy'n siarad. Mae Mike - fy mhartner - ffrindiau a theulu wedi dod i 'nabod sut mae gwahanol sefyllfaoedd yn effeithio ar fy nghlyw, fel os oes gan fwyty loriau neu waliau pren mae sŵn yn cario ac yn uchel.
Ond mae malans i dal wedi ei effeithio, wrth gwrs, felly pan dwi'n gwisgo sodlau uchel ar noson allan, dwi fel Bambi braidd!

Mae Ceri yn falch ei bod yn gallu canu gydag Ina fach, ac mae hi hefyd yn dysgu ychydig o iaith arwyddo iddi
Mae'n beth difrifol i golli clyw, i ddweud y gwir. Mae o'n andros o gnoc i hyder rhywun.
Dwi ddim yn flin rŵan ond mi o'n i am 'chydig - dwi'n trio bod yn bositif am y peth.
Dwi 'di dechrau gwersi iaith arwyddo (BSL), oherwydd mod i'n gweithio gyda'r cyhoedd. Mi o'n i isho bod yn gallu helpu rhywun i gael sgwrs, oherwydd dwi 'di dod i ddallt sut mae colli clyw yn gallu amharu ar fywyd rhywun ac yn achosi i berson deimlo'n unig iawn.
Dwi yng nghanol lefel 2 ar hyn o bryd, ac yn mwynhau dysgu BSL gymaint dwi 'di cychwyn 'neud arwyddo efo Ina hefyd, i'w helpu i allu cyfathrebu cyn iddi allu siarad.
Hefyd o ddiddordeb: