Yr haul yn ail-ymddangos mewn pentref ar ôl chwe wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae'n wythnos nodedig mewn un pentref yng ngogledd Cymru gan fod yr haul yn ôl yno am y tro cyntaf ers mis a hanner.
Mae Nant Peris yn cysgodi yng nghrud Dyffryn Peris, a'r mynyddoedd yn codi fel waliau ar ddwy ochr, a'r ffordd tua'r de-ddwyrain yn codi tuag at Pen-y-Pas a llwybrau'r Wyddfa.
Ond un anfantais o fod yng nghanol harddwch Eryri ydi bod yr haul yn is na'r mynyddoedd am gyfnod dros y gaeaf ac felly mae'n amhosib ei weld.
Yr wythnos yma, mae'n ôl - am gyfnod byr bob dydd o leiaf, a'r amser yn cynyddu wrth i'r wythnosau fynd yn eu blaenau.
Mae Shirley Davies a Margaret Ellis wedi hen arfer gyda'r ffaith - fe fagwyd y ddwy yn y pentref, cyn magu eu teuluoedd eu hunain yno.
Iddyn nhw mae un diwrnod yn Ionawr yn sefyll allan yn y calendr ers iddyn nhw fod yn blant.
"13 Ionawr 'da ni'n gweld yr haul eto ar ôl y gaeaf," meddai Margaret Ellis.
"Mae o i'w weld am ddau funud ar groes fach ar dop yr eglwys. Dyna'r traddodiad - dyna oedd yr hen bobl yn arfer dweud hefyd. Ond does 'na ddim haul ar 13 Ionawr bob tro i chi fedru ei weld o chwaith."
"Mae o i ffwrdd am tua chwe wythnos. Yn y bore mae o tu cefn i ni, ac o dan lefel y mynydd, wedyn mae'n dod rownd gyda'r nos ond mae'r Wyddfa a Chrib Goch o'n blaenau ni felly tyda ni'm yn gallu gweld yr haul am gyfnod gan ei fod yn isel yn yr awyr - mae o o dan y mynydd."
13 Ionawr - y diwrnod mawr
Mae hi a Shirley Davies yn byw ar ochr ddwyreiniol y ffordd sy'n mynd drwy ganol y pentref - ac felly'n cael mwy o haul nag ochr arall y pentref unwaith mae'n ail-ymddangos ar ôl y gaeaf.
Meddai Shirley Davies: "Ar 13 Ionawr, 'da ni'n gweld yr haul yn dod lawr Elidir Fawr, mae o'n dod yn agosach ac agosach bob dydd - pan mae yna haul o gwmpas.
"Mae'n cymryd dipyn go lew o amser i ddod lawr y dyffryn i gyd - mae hynny wedi digwydd erbyn tua mis Mawrth mae'n siŵr.
"Pan mae'n rhewi tydi o ddim yn dadmer. A barrug - tydi o byth yn codi fan yma yn y gaeaf, mae'n para am hydoedd, ac yn codi fel niwl.
"Mae'n siŵr bod 'na lefydd eraill yng Nghymru yr un fath."
'Angen Fitamin D i bawb yn Nant'
Gall diffyg haul gael effaith ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r ddwy yn ymwybodol o hynny ac ar ddyddiau llwm maen nhw'n mynd i chwilio am y pelydrau.
Meddai Shirley Davies: "Mae o yn effeithio ar bobl, mae o'n gallu bod yn le mwll yn y gaeaf ac mae o'n gwneud pobl yn isel. 'Da ni angen Fitamin D i bawb ohono' ni yn Nant.
"Weithiau 'da ni'n mynd am dro at yr haul. Weithiau ti'n edrych lawr y dyffryn a wnâi ddweud 'o mae'n edrych yn neis lawr yn fana' felly da ni'n mynd yn y car neu ar y bws.
"Nawn ni fynd i Gaernarfon, a weithiau ti'n cyrraedd Llanberis a ti'n gweld yr haul a ti'n meddwl 'o am braf'."
Fel brodorion o'r pentref, mae'r ddwy yn dweud eu bod wedi hen arfer efo'r lleoliad a'r tymhorau erbyn hyn - a bod manteision o fyw yn y pentref hefyd.
Meddai Margaret Ellis: "Mae'n iawn yn yr haf. Lle dwi'n byw, yn yr haf, dwi'n cael lot o olau - gyda'r nos hefyd pan mae'r haul yn dod dros Gastell Dolbadarn ac i fyny'r dyffryn, mae'n braf iawn."
Ac mae ei chyfaill yn cytuno: "Tydi'r gaeaf ddim yn effeithio arno' ni gymaint achos 'da ni wedi arfer efo fo.
"Y rheswm ti'n dod i Nant ydi i gael llonyddwch. Mae'n braf iawn yma yn yr haf yn enwedig - yng nghanol y mynyddoedd."
Cyhoeddwyd yr erthygl yma gyntaf yn 2020