Cyfarfod y Cymry ynghanol tanau Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae dau o ohebwyr BBC Cymru wedi teithio i Awstralia i weld difrod y tanau diweddar, a chlywed am brofiadau rhai o Gymry'r wlad.
"Da ni'n mynd mewn i be' maen nhw'n ei alw'n active fire ground rŵan."
Yn ardal y Snowy Mountains, Awstralia, mae Glyn Llechid wedi bod yn brwydro'r tanau enbyd sydd wedi creithio'i wlad fabwysiedig.
Yn wreiddiol o Fethesda, mae'n byw yn Awstralia ers dros chwarter canrif.
Yn ffermwr defaid wrth ei waith bob dydd, mae hefyd yn ddyn tân gwirfoddol gyda Gwasanaeth Tân Gwledig talaith New South Wales, ac mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai anodd.
"'Da ni di cael dyddiau ofnus, pryderus. Mae'r tanau yma wedi bod yn ofnadwy am wythnosau," meddai.
Wrth yrru ar hyd y ffyrdd gwledig, mae'r dinistr yn amlwg. Mae erwau o dir fu tan yr wythnos ddiwethaf yn dir ffrwythlon, bellach yn ddiffeithwch du. Ffrind i Glyn sy'n cadw'r tir yma.
Pan saethodd y fflamau dros y bryniau a lawr tuag at y fferm, trodd yr awyr yn goch llachar, cyn i'r mwg droi popeth yn ddu.
"Roedd 50 neu 70 o ddiffoddwyr tân yma a doedd neb yn gallu achub y tir. Dwi'n meddwl i bawb cael llond twll o ofn a dweud y gwir," meddai Glyn.
Llwyddodd Guy Stephens i symud ei 700 o wartheg o lwybr y fflamau, ond mae'r cnydau roedd yn eu tyfu i'w bwydo nhw wedi mynd.
Mae nawr yn gwario $1,500 - rhyw £700 - y dydd ar fwydo'r stoc.
A dyw'r perygl ddim ar ben. Er bod y fflamau oleuodd awyr ardal Adaminaby gyda gwres wedi cilio dros y bryniau, mae'r tân yn y tir o hyd.
Pob prynhawn, wrth i'r gwyntoedd godi a'r tir gynhesu, mae tanau bychain yn goleuo unwaith eto.
Wrth ddilyn hewl fach droellog tu hwnt i fferm Guy Stephens, mae gwir ddinistr y tanau yn dod i'r amlwg. Yng nghanol y coed ewcalyptws trwchus bob ochr i'r lôn, mae'r cymdogion wedi colli popeth.
Lle unwaith roedd cartref, bellach mae dim ond carcas. Eiliadau'n unig oedd y tân ynghyn yma ond mae'r dinistr yn llwyr.
Hyd yn oed i ddyn tân profiadol fel Glyn Llechid, mae'r difrod yn erchyll.
"Mae hyd yn oed y ffenestri alwminiwm wedi toddi. Maen nhw 'di llosgi. Mor boeth ac mor sydyn daeth y tân drwy fama," meddai.
"Mae'n dangos pa mor ffyrnig ydy o. Does dim byd werth achub yn y tŷ yma o gwbl. Does dim byd ar ôl."
A dyna yw'r darlun ar draws y wlad. Er bod Awstralia yn gyfarwydd â thanau yn ystod yr haf, dy'n nhw erioed wedi gweld unrhyw beth ar y raddfa yma.
Mae tir teirgwaith maint Cymru wedi llosgi'n ulw, dros 2,000 o gartrefi wedi'u llyncu gan y fflamau a 28 o bobl bellach wedi colli'u bywydau.
Byddai'r ffigyrau yma'n waeth o lawer heb y rhybuddion cynnar a gwaith trylwyr y gwasanaethau brys i geisio amddiffyn bywydau ac eiddo.
Wrth deithio drwy gefn gwlad Awstralia, ry'n ni'n tystio i bwysigrwydd y rhybuddion hynny.
"It is now too late to leave," meddai'r rhybudd cignoeth ar y radio wrth yrru drwy ardal Gippsland, i'r dwyrain o ddinas Melbourne.
"If you are still in the area, close and cover all doors and windows and wait for the fire to pass."
I'r gogledd o Sydney yn ardal y Blue Mountains, mae 'na Gymro arall yn rhan o'r gwaith paratoi i geisio atal y fflamau.
O Lanrug daw Keith Roberts yn wreiddiol, ond fe ddaeth i Awstralia i fyw gyda'i rieni pan oedd yn 13 oed.
Mae'n gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Argyfwng Talaith New South Wales - gwasanaeth sy'n cynnig cymorth i'r gwasanaeth tân drwy gludo offer a darparu bwyd a diod iddyn nhw.
Er bod tanau yn llosgi yn y Blue Mountains, mae'r agosaf ryw 20 cilomedr o'i dŷ.
Ond mae'n dweud dan yr amodau iawn, gyda'r gwynt yn chwythu i'r cyfeiriad cywir, fe allan nhw fod ar ei stepen drws mewn ychydig oriau.
Fel nifer o bobl y wlad, mae'n grac gyda llywodraeth Scott Morrison. Llynedd oedd y flwyddyn boethaf yn Awstralia ers dechrau cadw cofnodion.
Mae newid hinsawdd yn cael ei feio am hynny, ac am greu'r amodau perffaith ar gyfer y tanau enbyd eleni.
Er gwaethaf hynny, mae nifer yn teimlo bod y llywodraeth yn ddi-hid am y broblem, gan ffafrio twf yr economi a dymuniadau cwmnïau diwydiannol dylanwadol dros ddyfodol y blaned.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth degau o filoedd i strydoedd rhai o ddinasoedd mawrion y wlad i alw ar y Prif Weinidog i wneud mwy i daclo'r broblem.
Newid agwedd
Mae Keith Roberts ymhlith y rheiny sy'n gobeithio bod newid ar droed yn wyneb yr argyfwng presennol.
"Does gan bobl Awstralia ddim ffydd ynddyn nhw [gwleidyddion]," meddai.
"Mae beth sydd wedi digwydd gyda'r tanau yma wedi newid y ffordd mae pobl yn meddwl, a ma' hwn wedi dychryn dipyn bach ar lywodraeth Awstralia a New South Wales.
"Bydd pethau yn newid ar ôl hyn i gyd."
Gyda llygaid y byd ar y wlad, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi comisiwn brenhinol i'r tanau, a'r Prif Weinidog wedi ymddiheuro am y ffordd mae wedi delio a'r argyfwng.
Dros y dyddiau diwethaf, mae ychydig o ysbaid wedi bod i'r gwasanaethau argyfwng. Mae'r tymheredd wedi gostwng ychydig a'r gwyntoedd cryfion wedi distewi.
Ond mae deufis ar ôl o dymor y tanau, ac fe allai'r amgylchiadau newid eto. Gyda dwsinau o danau yn dal i losgi ar draws y wlad, mae pobl Awstralia yn dal eu hanadl o hyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2020