'Mwy o hyder' am ddyfodol cynllun Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Union flwyddyn ers i gwmni Hitachi ddweud nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun Wylfa Newydd am y tro, mae'r dyn sy'n gyfrifol am hyrwyddo datblygiad economaidd Ynys Môn yn dweud ei fod yn "fwy hyderus erbyn hyn ynglŷn â dyfodol y cynllun".
Dywedodd Carwyn Jones, deilydd portffolio datblygu economaidd y cyngor, fod y cyd-destun amgylcheddol wedi newid.
"Da ni'n teimlo yn well heddiw nag o'n i 12 mis yn ôl ac mae'r synau sy'n dod o wahanol ffynonellau yn rhai calonogol iawn," meddai.
Mae'n sôn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod am fod yn garbon niwtral erbyn 2050, tra bod Llywodraeth Cymru wedi datgan fod newid yn yr hinsawdd yn argyfwng.
Bwriad gwreiddiol y cwmni o Japan oedd codi atomfa newydd am £13bn, gan wario £2bn cyn iddyn nhw gyhoeddi ar 17 Ionawr 2019 nad oedden nhw am fwrw ymlaen â'r cynllun am y tro.
Roedd Hitachi wedi sefydlu is-gwmni o'r enw Horizon i weithredu'r cynllun, gan gyflogi 200 o bobl, ond bellach mae llai na 10 ar ôl.
Yn wreiddiol, roedd yna obeithion am greu hyd at 9,000 o swyddi tra bod y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo, ac y byddai nifer o swyddi da ar gael i redeg yr orsaf.
Ond oherwydd methiant i gytuno ar bris am y trydan gyda Llywodraeth y DU, penderfynodd y cwmni beidio bwrw ymlaen am y tro.
Nawr dywed Mr Jones bod posibilrwydd fod model ariannu newydd yn cael ei ystyried ar gyfer prosiectau isadeiledd mawr fel Wylfa Newydd.
Ond yn ôl Dylan Morgan o fudiad Pobl Atal Wylfa-B, sy'n gwrthwynebu atomfa newydd, nid yw'r darlun byd-eang yn awgrymu bod newid meddwl ar y gweill.
"Y cyd-destun diweddar yn ôl adroddiad y World Nuclear Industry Status Report yw mai darlun o ddirywiad cyson yw hi yn hanes y diwydiant niwclear yn fyd-eang," meddai.
"Mae'r ffaith fod Hitachi flwyddyn union yn ôl wedi penderfynu eu bod nhw ddim am suddo biliynau o arian mewn i'r cynllun yma yn dweud y cwbl."
Ar hyn o bryd mae'r diwydiant niwclear yn cynhyrchu 21% o ynni Prydain, ond wrth i rai o'r gorsafoedd gyrraedd diwedd eu hoes bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU benderfynu sut maen nhw'n mynd i lenwi'r bwlch heb gynyddu lefelau carbon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019