Angladdau traddodiadol 'yn mynd allan o ffasiwn'
- Cyhoeddwyd
Mae angladdau naturiol yn dod fwyfwy poblogaidd yng Nghymru, gyda lleoliad newydd yn agor yn Keeston yn Sir Benfro yn y misoedd nesaf.
Ond nid am resymau amgylcheddol yn unig mae pobl yn dewis angladd naturiol, yn ôl y cyfarwyddwr angladd Matthew Sims.
Dywedodd Mr Sims, sy'n byw yn Abertawe ac yn rhan o'r cwmni trefnu angladdau, Sims and Jones, bod angladdau traddodiadol "yn mynd allan" o ffasiwn.
"Mae angladdau yn newid, mae e mwy am beth mae'r person moyn yn lle'r traddodiad... a fi'n credu bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hwn," meddai Mr Sims.
Er hyn, mae nifer yr angladdau naturiol yn parhau'n isel o'i gymharu ag angladdau mewn mynwentydd ac amlosgfeydd.
Yn ôl data o gwmni Leedam Natural Heritage, sy'n rhedeg caeau angladdau naturiol ar draws Prydain - gan gynnwys dau safle yng Nghymru - mae nifer yr angladdau naturiol gafodd eu lleoli yn safleoedd Caerdydd a Brynbuga wedi dyblu ar gyfartaledd dros yr 11 mlynedd diwethaf.
Mewn angladdau naturiol mae cyrff yn aml yn cael eu claddu mewn coedwig neu gae penodedig, weithiau heb arch, fel bod modd iddynt ddirywio'n naturiol.
Mae'r cwmni hefyd yn gyfrifol am agor y trydydd safle yn Sir Benfro.
Mae Mr Sims wedi trefnu sawl angladd naturiol yn ystod ei yrfa.
Dywedodd: "Yn y blynyddoedd diwethaf, mae e definitely'n rhywbeth sydd nawr yn fwy normal.
"Mae angladd naturiol yn angladd personol - anything goes really.
"Fi'n credu bod symudiad wedi bod mewn bywyd. Pryd o'n i'n tyfu lan o'dd mam-gu a tad-cu yn mynd i'r capel, ac o'dd traddodiad o wasanaeth yn y capel ac wedyn claddu yn y fynwent.
"Ond achos nawr ma' lot llai o bobl yn mynd i'r capel, ma' pobl nawr yn edrych am ffyrdd eraill o gael yr angladd... ac mae'r ffordd naturiol yn un ohonyn nhw."
'Niferoedd bychan o hyd'
Er hyn dywedodd y gweinydd dyneiddiol Androw Bennett o Sir Gaerfyrddin bod y nifer sy'n dewis angladdau naturiol "dal i fod yn fychan".
Pwysleisiodd hefyd bod claddu corff yn naturiol yn rhan o rai gwasanaethau angladd sy'n cael eu cynnal mewn amlosgfeydd ac ar ôl gwasanaethau crefyddol.
"Er enghraifft, dwi wedi cynnal dwy angladd ddyneiddiol eleni ac roedd y ddwy mewn amlosgfa," meddai Mr Bennett.
"Ond llynedd, nes i bedwar angladd naturiol yn Ystum Llwynarth yn y Mwmbwls."
Dywedodd bod rhai gwasanaethau angladd traddodiadol bellach yn cael eu dilyn "gan gladdu mewn mangre naturiol", a'i fod wedi gweld gwasanaethau mewn amlosgfeydd yn cynnwys eirchion naturiol.
Dewisodd Ann Walter, sy'n byw yn Llanilltud Fawr, angladd naturiol a gwasanaeth dyneiddiol yn safle Caerdydd a'r Fro i'w gŵr, Ian Wiley.
"Y brif broblem oedd amlosgiad," meddai.
"Roedd e'n bennaf am y ffaith byddai [angladd naturiol] yn defnyddio llai o egni, er bod lot o amlosgfeydd yn eithaf deniadol.
"Mae'n lot fwy naturiol i'r corff fynd yn ôl mewn i'r ddaear nag i gael ei losgi ac wedyn gwasgaru'r ulw rhywle.
"Roedd fy ngŵr yn hoff iawn o arddio, roedd e'n caru'r tŷ gwydr, oedd e'n rhoi stwff yn y compost, ac o'n i'n meddwl, wel byddai fe'n hoffi hwn achos oedd e'n debyg i be roedden ni'n credu mewn o ran ein bywyd bob dydd a garddio."
Dywedodd Ms Walter bod y lleoliad hefyd yn ffordd o osgoi "symbolau o farwolaeth".
"Roedd hwn yn edrych fel lle neis i fod mewn, ble gallech chi feddwl amdano fe heb yr holl atgofion amlwg.
"Mae'r cae yn cael ei redeg yn dda, mae'n rhan o'r ffarm, mae ganddyn nhw ddefaid yno ar adegau penodol o'r flwyddyn felly mae dal yn cael ei ddefnyddio fel tir amaethyddol."
'Dim digon o le'
Sarah Wickham a'i phartner Dai Edwards-Grota yw tirfeddianwyr y cae angladdau naturiol newydd sy'n agor yn Sir Benfro.
Yn ôl Ms Wickham, "mae 'na alw yn bendant" am leoliadau angladdau naturiol yn yr ardal.
Dywedodd bod y "prif fynwent yn yr ardal heb lot o lefydd ar ôl, ac yn ôl y cyngor, mae disgwyl bydd y llefydd yn rhedeg allan yn y pedwar neu phum mlynedd nesaf".
Ychwanegodd Ms Wickham bod claddu person mewn lle gwahanol i fynwent yn apelio at lot o bobl.
"Rhan o'r apêl yw dydych chi ddim angen edrych ar ôl carreg fedd, does dim angen teimlo'n wael am beidio gwneud."
Mae rhai o drigolion yr ardal wedi mynegi pryder ynglŷn ag agoriad y safle newydd ger Keeston oherwydd gofidion am draffig, bywyd gwyllt a'r effaith ar drigolion sy'n byw yn agos.
Ond mae Ms Wickham, oedd yn gweithio yn amlosgfa Thornhill yng Nghaerdydd tan 2012, yn cyfiawnhau agor y safle drwy sôn am yr amgylchedd.
"Dyw amlosgi ddim yn gyfeillgar i'r amgylchedd, dydyn ni ddim yn mynd i allu parhau gyda hwn yn y dyfodol hirdymor," meddai.
"Ond mae tir amaethyddol yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth, chi jyst yn cynyddu defnydd y tir ac yn amrywio sut mae'r tir yn cael ei ddefnyddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2019