Tour de France: 'Un cynnig da arall' i Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yn dathlu ar y podiwm ym Mharis ar ôl ennill y Tour de France yn 2018

Mae Geraint Thomas wedi dweud y bydd yn canolbwyntio ar y Tour de France eto eleni a'i fod yn awyddus i roi "un cynnig arall" ar ennill.

Daeth y Cymro i'r brig yn ras seiclo enwocaf y byd yn 2018 cyn ildio'r goron y llynedd i'w gyd-aelod yn nhîm Ineos, Egan Bernal.

Fe allai Ineos fod â thri arweinydd yn eu tîm ar gyfer y ras yn yr haf, gyda Thomas a Bernal yn rhannu dyletswyddau â'r cyn-bencampwr arall Chris Froome.

"Y Tour fydd y nod mawr i fi eto," meddai Thomas, sy'n troi'n 34 oed eleni.

"Yn amlwg roedd sôn am gystadlu yn y Giro [d'Italia] hefyd, achos bydden i wrth fy modd yn mynd i fanno eto, ond dwi eisiau mynd ar y Tour unwaith eto.

"Dwi jyst eisiau rhoi un cynnig da arall arni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith i'r dde): Egan Bernal, Chris Froome a Geraint Thomas yn lifrai Team Sky ar y Tour de France yn 2018

Dywedodd Thomas ei fod hefyd yn bwriadu cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo er bod y ras ffordd yn digwydd ar 25 Gorffennaf, wythnos yn unig wedi i'r Tour ddod i ben.

Mae gan y gŵr o Gaerdydd eisoes ddwy fedal aur o'r Gemau Olympaidd - yn 2008 a 2012 - a hynny pan oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar seiclo trac.

"Does dim lot o amser rhwng y Tour a'r Gemau Olympaidd, ac yn amlwg mae gennych chi'r gwahaniaeth amser hefyd," meddai Thomas mewn fideo gafodd ei gyhoeddi gan Dîm Ineos.

"Yn ddelfrydol byddai 'na wythnos fach arall.

"Byddai gwneud y Giro a rhaglen arall yn siwtio'r Gemau Olympaidd yn well efallai, ond dwi wedi gwneud hyn o'r blaen ble dwi wedi mynd syth o'r Tour i rasys eraill."