Tân carafán angheuol 'ddim yn cael ei drin fel un amheus'

  • Cyhoeddwyd
Gweddillion tân carafán Ffair-Rhos

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i fachgen tair oed farw ar ôl tân mewn carafán yng Ngheredigion.

Cafodd y llu alwad am 05:35 fore Sul yn dweud fod tân mewn carafán yn Ffair-rhos, ger Pontrhydfendigaid.

Cafodd tad y bachgen, Shaun Harvey, a bachgen pedair oed eu cludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar ôl cael "llosgiadau difrifol".

Dywedodd y llu mewn datganiad ddydd Llun: "Mae ymchwiliwyr heddlu a thân yn parhau i archwilio'r safle ond dyw'r amgylchiadau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus ar hyn o bryd.

"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi'r teulu ar y cyfnod trawmatig hwn."

Disgrifiad,

Mae cymuned wledig yng Ngheredigion yn dweud eu bod mewn sioc ac yn eu dagrau

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Cockwell ddydd Sul: "Mae'n hymchwiliadau hyd yma yn ein harwain i gredu bod tri o bobl yn y garafán ar y pryd - sef tad a dau o blant, pedair a thair oed.

"Tra bod y tad a'r plentyn hynaf wedi gallu dianc, cafwyd hyd i'r ieuengaf (bachgen) wedi marw y tu fewn i'r garafán.

"Mae ein cydymdeimlad gyda'r teulu ar yr amser hynod o anodd hwn.

"Mae'r tad mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ac mae'r plentyn pedair oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog. Mae'r ddau wedi cael llosgiadau difrifol."

Ychwanegodd Mr Cockwell bod ystafell ymchwilio wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin a oedd wedi cyrraedd y safle cyn swyddogion yr heddlu," meddai.

"Ry'n yn awyddus i siarad ag unrhyw un yn ardal Ffair-rhos all roi gwybodaeth i ni am y tân ac a all helpu ein hymchwiliad."

'Sioc a dagre'

Cafodd Dr Ted Jones, sy'n byw yn Ffair-rhos, ei ddeffro wrth iddo glywed sŵn y peiriannau diffodd tân yn cyrraedd.

"Ma'r teulu'n bobl weddol leol, ma nhw yma'n eitha amal, ac o'n nhw'n nhafarn y pentre nos Sadwrn," meddai ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Llun.

"Wrth edrych allan o'r ffenestr fore Sul ro'n i'n gallu gweld dau neu dri pheiriant a goleuadau glas tu allan i'r tŷ, a dyna'r peth cynta' nes i glywed, ac yna gweld ceir heddlu ar hyd y pentre'.

"O'dd fy nghymydog wedi gweld y tân, o'dd e wedi mynd lan yna a gweld y fflamau'n dod drwy'r garafán.

"Ma' Ffair-rhos yn bentre bach, gwledig, does dim llawer o ddim byd yn digwydd yma, felly o'dd e'n sioc i bawb bod e wedi digwydd ac mor drist bod plentyn bach wedi marw."

Dywedodd y Cynghorydd John Jones: "Mae hwn yn sioc fawr iawn, yn digwydd mewn pentref bach gwledig fel Ffair-rhos.

"Ma'n meddylie ni gyda'r teulu bach, yn cydymdeimlo'n ddwys iawn â nhw, ac yn meddwl amdanyn nhw.

"Pan ma' tân yn dod mae e'n creu difrod, a pan ma bywyd - yn enwedig bywyd mor ifanc - yn cael ei golli, ma'r pentre mewn sioc a dagre bore 'ma achos bod e 'di digwydd mor agos i ni 'ma.

"'Y ni'n gyfarwydd a gweld rhwbeth fel hyn ar y newyddion, tanau ac yn y blaen, ond pan mae'n digwydd ar garreg eich drws chi, ma' fe'n dipyn o sioc."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion bod ei "gydymdeimlad dwys gyda'r teulu yn dilyn y digwyddiad trasig yn Ffair-rhos", a bod swyddogion yn "gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ac yn rhoi cymorth i'r teulu a'r ysgol ar yr adeg anodd yma".