Ffi gyrru yn dreth ar y cymoedd?
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai'n rhaid i unrhyw system sy'n codi tâl am yrru yng nghanol Caerdydd ystyried effaith hynny ar y rhanbarth ehangach, medd gweinidog trafnidiaeth Cymru.
Mae Ken Staktes wedi ysgrifennu at Gyngor Caerdydd ynglŷn â'u syniad o godi tâl ar yrwyr er mwyn lleihau tagfeydd yn y ddinas ac er mwyn cwrdd â thargedau gwyrdd.
Mae'r rhanbarth o gwmpas y brifddinas yn cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, meddai Mr Skates yn ei lythyr.
Dywedodd Alun Davies, AC Llafur Blaenau Gwent, na ddylai ei etholwyr ef orfod ariannu polisïau cyngor Caerdydd.
Roedd, meddai, yn cefnogi gweledigaeth y cyngor o gyflwyno systemau tram-tren newydd, bysys cyflym a chyfleusterau parcio a theithio.
Ond rhybuddiodd Mr Davies "na ddylai Caerdydd geisio gorfodi eraill i dalu am hyn".
Fe allai'r ffi o £2 gael ei chyflwyno erbyn 2024 yn ôl adroddiad ar ran y cyngor gafodd ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf.
Fe wnaeth arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wadu'r cyhuddiad fod hyn gyfystyr â chodi treth ar drigolion y cymoedd.
Wrth ysgrifennu at Mr Thomas, dywedodd Mr Skates "fod gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar" y ddinas yn enghraifft o'r hyn sydd ei angen "pe bai Cymru am arwain y ffordd wrth fynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd".
Ond fe ychwanegodd: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried, mewn mwy o fanylder, nod Caerdydd o gyflwyno unrhyw system reoli fyddai'n cael effaith ar y rhanbarth ehangach, sy'n cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru."
Dywedodd Mr Skates y byddai 'r Llywodraeth yn cynnal astudiaeth fanwl "i'r budd a'r heriau" o unrhyw systemau erbyn yr hydref er mwyn fod gwybodaeth ar gael wrth ffurfio polisïau rhanbarthol a chenedlaethol ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020