S4C 'ddim angen rhagor o arian' yn ôl adroddiad

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Does dim angen rhagor o arian ar S4C er mwyn iddyn nhw gynnig mwy o wasanaethau digidol, yn ôl adroddiad annibynnol ar ddyfodol y sianel.

Ond mae awdur yr adolygiad, Euryn Ogwen Williams, yn dweud bod angen newid y ffordd mae'r sianel yn cael ei rheoli.

Dywedodd cadeirydd S4C ei fod yn "croesawu dymuniad y llywodraeth i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i S4C ar gyfer y tymor hir".

Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu pob un o argymhellion yr adroddiad.

Dileu Awdurdod S4C

Mae Mr Williams, cyfarwyddwr rhaglenni cyntaf S4C yn yr 80au, yn dweud bod y strwythur fel ag y mae yn arafu'r broses o fanteisio ar gyfleoedd newydd yr oes ddigidol, a dylai Awdurdod S4C gael ei ddileu.

Mae'n galw am fwrdd newydd fyddai'n cynnwys rhai o swyddogion y sianel yn ogystal ag aelodau anweithredol fyddai'n goruchwylio a rhoi cyngor wrth lunio'r ffordd ymlaen.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud eu bod yn cytuno â'r awgrym hwnnw, ac y bydd bwrdd newydd yn dechrau ar ei waith ym mis Medi eleni, er efallai y byddai'n rhaid i hwnnw gysgodi'r awdurdod presennol am gyfnod.

Disgrifiad,

Dywedodd Euryn Ogwen Williams y gallai S4C "dreblu ei hincwm drwy weithio mewn ffordd wahanol"

Er bod yr arian cyhoeddus i S4C wedi gostwng o ryw £100m wyth mlynedd yn ôl i £81m erbyn hyn, dydy Mr Williams ddim yn meddwl bod angen ychwanegu er mwyn i'r sianel ehangu ei gwasanaethau.

Mae'n galw ar S4C hefyd i greu canolfan ddigidol a rhoi cyfle i bobl yn y maes ddatblygu syniadau.

Mae o'r farn y gallai'r sianel dreblu'i hincwm masnachol o ymateb yn gynt i'r cyfleoedd sydd ar gael - sydd eto'n ei arwain i'r casgliad fod rhaid i'r strwythur rheoli newid.

Er bod Mr Williams yn mynnu nad yw'r adroddiad yn feirniadaeth ar S4C, mae'n dweud bod rhaid i'r sianel "weithio'n gyflymach i gystadlu" a bod yn "bartner gwell" i weddill y sector ddarlledu.

Fe ddywedodd llawer wrtho fod y sefydliad "ar ei hôl hi", meddai.

Disgrifiad,

Dywedodd Alun Cairns bod yr adroddiad yn rhoi "sefydlogrwydd ariannol" i S4C

Mewn adroddiad sy'n gyforiog o gasgliadau, mae'n dweud bod angen rhoi mwy o gyfleoedd i gynhyrchwyr llai y sector annibynnol a meithrin awduron newydd - rhywbeth fyddai'n digwydd yn y gorffennol ond sy'n llai amlwg erbyn hyn.

Ond mae'n ychwanegu y gall cyfraniad S4C fod yn allweddol wrth geisio cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dangos bod y gwasanaeth i blant, Cyw, heb unrhyw amheuaeth yn gwella Cymraeg y plant ieuengaf, gyda'r awgrym y dylai'r rhaglenni hynny fod yn rhan o'r cwricwlwm.

Ar hyn o bryd, mae 92% o arian cyhoeddus S4C yn dod trwy law'r BBC, a'r gweddill gan Lywodraeth y DU, ond mae Mr Williams o'r farn mai'r BBC ddylai roi'r cyfan o 2022 ymlaen, pan fydd eu siarter yn cael ei hadnewyddu.

Mae'r BBC wedi dweud nad ydyn nhw'n cytuno â'r awgrym hwnnw, gan ddweud y byddai'n well i arian S4C ddod o fwy nag un ffynhonnell.

Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau

Roedd disgwyliadau mawr gan rai ynglŷn ag adolygiad S4C, ond mae'r briffio ers i Euryn Ogwen Williams gychwyn ar ei waith wedi trio rheoli disgwyliadau.

Felly mewn adroddiad cymharol denau, dim ond y cynllun i newid y drefn ariannol sy'n cipio'r penawdau.

Yn y diwydiant darlledu mae cryn wrthwynebiad i'r syniad o symud cyfrifoldeb cyllido S4C i ffi'r drwydded yn unig, ac mae'r BBC wedi bod yn sydyn iawn i bwyntio bys at ddogfen S4C y llynedd, rybuddiodd yn erbyn dod â chyfraniad y DCMS i ben.

Tra bod cytundebau gweithredu yn bodoli yn barod rhwng S4C a'r BBC, ac annibyniaeth S4C wedi'i gwarchod yn ffurfiol, mae'n anodd osgoi'r argraff y byddai'r sianel yn fraich ar y gorfforaeth dan y drefn newydd.

Fe all yr ymgyrchwyr iaith a rhai gwleidyddion ffeindio'u hunain ar ochr y BBC yn y diwrnodau i ddod yn gwrthwynebu'r cynllun.

Amser a dyfalbarhad fydd yn profi pa mor benderfynol mae'r DCMS o newid y drefn.

Datganoli darlledu

Yn ymateb i'r adroddiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ailadrodd eu galwad i ddatganoli darlledu i Gymru.

Dywedodd cadeirydd grŵp dyfodol digidol y gymdeithas, Aled Powell: "Dyw'r llywodraeth ddim yn cynnig unrhyw sicrwydd am gyllid y sianel wedi 2022 - maen nhw'n ymddiried yn llwyr mewn trafodaethau gyda'r BBC fydd ddim yn dechrau tan 2021.

"Yr unig beth sy'n sicr mewn sefyllfa o'r fath yw mai blaenoriaethau Prydeinig y BBC fydd yn dod yn gyntaf, yn hytrach nag annibyniaeth S4C neu blwraliaeth cyfryngau Cymru.

"Rhoddais ddeiseb gyda dros 1,000 o enwau arni yn nwylo Euryn Ogwen Williams fel tystiolaeth i'r adolygiad, ond mae llais pob un ohonyn nhw hynny wedi ei hanwybyddu'n llwyr, gyda'r adroddiad yn honni'n anghywir mai dim ond 'lleiafrif o ymatebwyr' oedd yn cefnogi datganoli darlledu."

Mae Mr Williams wedi gwrthod y galwadau i ddatganoli darlledu yn ei adroddiad, gan ddweud y dylai S4C fod yn canolbwyntio yn hytrach ar "flaenoriaethau strategol allweddol".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pencadlys newydd S4C, Yr Egin, yn agor ym mis Medi eleni

Dywedodd cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Gareth Williams ei fod yn croesawu'r ffaith y bydd gan S4C "fwy o ryddid i weithredu ar draws platfformau gwahanol er mwyn darparu cynnwys i'r gynulleidfa".

Ond maen nhw hefyd wedi galw am ragor o eglurhad am "sut gellir sicrhau bod model ariannu S4C yn y dyfodol yn gynaliadwy".

'Sefydlogrwydd ariannol'

Ar y Post Cyntaf, dywedodd cadeirydd S4C, Huw Jones: "Wrth edrych yn ôl ar newid yn fformiwla ariannu S4C yn 2010/11, mi oedd hynny yn golygu bod pob penderfyniad am ariannu S4C yn un gwleidyddol.

"'Di'r llywodraeth, dwi ddim yn meddwl, yn dymuno gweld hynny yn parhau. Ac felly, mae 'na ymgais gwirioneddol yma i osod trefn lle fydd ariannu S4C yn sefydlog, fydd o yn cael ei drafod bob pum mlynedd, ac yn tynnu'r wleidyddiaeth allan ohoni, ac mae hynny yn beth da."

Mewn datganiad, ychwanegodd Mr Jones y bod yn "anochel" y byddai'r argymhelliad bod holl gyllid y sianel yn dod o ffi'r drwydded yn "ddadleuol".

"Yr her fydd i sicrhau tair egwyddor allweddol, sef cyllid sefydlog, annibyniaeth S4C a darpariaeth arian digonol."

Ychwanegodd y bydd S4C yn edrych yn fwy manwl ar yr adolygiad ac ymateb y llywodraeth dros yr wythnosau nesaf cyn ymateb yn llawnach.

Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu pob un o'r argymhellion yn adroddiad Mr Williams, ac felly mae'n annhebygol y bydd S4C yn cael mwy o arian cyhoeddus yn y dyfodol agos, a bod dyddiau Awdurdod S4C yn dirwyn i ben.