Gohiriadau pellach yn bosib ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
A465Ffynhonnell y llun, @A465_SECTION2
Disgrifiad o’r llun,

Gall ffrae rhwng y cwmni adileadu a'r llywodraeth ohirio dyddiad cwblhau'r prosiect

Mae dyddiad gorffen adeiladu ffordd Blaenau'r Cymoedd yn y broses o gael ei adolygu yn dilyn ffrae rhwng yr adeiladwyr a'r llywodraeth.

Mae'r prosiect i ledaenu rhannau o'r ffordd eisoes £54m dros yr arian a benodwyd ar ei gyfer.

Roedd y gwaith ar ffordd yr A465 o Frynmawr ym Mlaenau Gwent i Gilwern yn Sir Fynwy i fod i orffen erbyn diwedd 2019.

Ond gall ffrae dros gostau'r prosiect rhwng yr adeiladwyr Costain a Llywodraeth Cymru wthio'r dyddiad yn ôl ymhellach i 2021.

Maen nhw'n anghytuno dros bwy sy'n gyfrifol am wybodaeth dylunio'r A465 a'r risg sy'n gysylltiedig â'r prosiect.

Yn y dechrau, cytunodd barnwr gyda Costain, ond aeth hwn i gyflafareddiad (arbitration) pan benderfynwyd bod angen rhannu'r cyfrifoldeb.

Dywedodd y cwmni y byddai'r penderfyniad yn gwaredu a hanner ei elw am y flwyddyn - o £38-£42m i £17m-£19m - a byddai'n rhaid gohirio'r dyddiad cwblhau tan hanner cyntaf 2021.

"Yn amlwg mae'r sefyllfa'n siomedig," meddai prif weithredwr Constain, Alex Vaughan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Davies bod angen i'r prosiect gael ei orffen yn y 12 mis nesaf

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r prosiect yn costio £324m.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn adolygu sut mae'r prosiect yn gallu cael ei gwblhau o fewn termau'r cytundeb.

"Mae'r adolygiad yn nesáu at ei gwblhad a bydd y gweinidog yn gwneud cyhoeddiad pellach cyn hir."

Dywedodd AC Blaenau Gwent, Alun Davies ar raglen BBC Radio Wales Breakfast fore Iau bod cyhuddiadau o "anrhefn" ar y ffyrdd yn bell o'r gwirionedd.

"Gwnaethoch chi gyflwyno'r pwnc gan ddweud bod anrhefn ar y ffordd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a dydy hwnna ddim yn wir."

Ond ychwanegodd: "Mae hynny wedi newid i ryw raddau dros y 12 mis diwethaf, oherwydd bod pobl yn blino o'r gwaith ffyrdd, o'r gohiriadau.

"Rydw i wedi bod yn glir iawn bod angen gweld y ffordd yma'n cael ei orffen yn y 12 mis nesaf - erbyn Nadolig y flwyddyn nesaf rhaid bod hyn wedi ei gwblhau."

'Mor ddig, dwi'n crynu'

Ond mae rhai o drigolion Gilwern yn dweud fod cau ffordd yr A465 ar benwythnosau yn golygu bod gyrwyr yn torri trwy'r pentref, yn achosi niwed i gerbydau a waliau.

Dywedodd Mark Cottle, sy'n byw ger Gilwern yn agos i'r ffordd, bod beth ddywedodd Mr Davies yn hollol anghywir.

"Dwi'n eistedd fan hyn, yn crynu achos bo' fi mor ddig oherwydd beth mae Alan Davies newydd ddweud," meddai.

"Roedd gymaint o bethau wnaeth e ddweud yn gwbl anghywir, mae llawer o bobl yn ddig iawn."

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae angen gwybod yr holl fanylion, mae angen i ni wybod beth sydd wedi digwydd, mae angen i ni wybod rheswm penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud cyn ac o ganlyniad i'r cyflafareddiad.

"Beth rydw i'n poeni amdano ydy'r defnydd o arian cyhoeddus a'r angen i wneud yn siŵr bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda."