£10m i adrannau brys wedi'r perfformiad gwaethaf eto
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd £10m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd i ymdopi gyda phwysau'r gaeaf - wrth i ffigyrau newydd ddangos y perfformiad gwaethaf gan adrannau brys ers i gofnodion gael eu cadw.
Mae'r arian yn ychwanegol i £30m gafodd ei gyhoeddi yn yr hydref.
Daw hyn wrth i'r ffigyrau ddangos fod perfformiad adrannau brys yng Nghymru wedi gwaethygu i'w lefel isaf i'w gofnodi am y pedwerydd mis o'r bron ym mis Rhagfyr.
Yn ôl y ffigyrau, dim ond 72.1% o gleifion fu mewn adrannau brys am lai na phedair awr yn ystod y mis - gostyngiad o'r 74.4% ym mis Tachwedd a 77.8% ym mis Rhagfyr 2018.
Nid yw'r targed o 95% erioed wedi ei gyrraedd.
Oedi
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod y nifer uchaf erioed o gleifion wedi aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys.
Ym mis Rhagfyr fe wnaeth 6,656 o gleifion aros mwy na 12 awr - sydd 766 yn fwy nag ym mis Tachwedd, a chynnydd o 2,760 o gymharu gyda Rhagfyr 2018.
Mae'r ffigyrau am fis Rhagfyr hefyd yn dangos fod y gwasanaeth ambiwlans wedi methu â chyrraedd y targed o ymateb ar fyrder i alwadau lle'r oedd bywyd mewn peryg am yr ail dro ers i ffigyrau gael eu cyflwyno yn 2015.
Galwadau coch
Ym mis Rhagfyr fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans ymateb i 62.0% o alwadau coch o fewn 8 munud - y targed yw 65%.
Er hynny, mae hyn yn welliant bychan o ffigyrau Tachwedd o 61.4%, ond yn llawer gwaeth na'r ffigyrau am yr adeg yma'r llynedd - sef 72.8%.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: "Fe hoffwn ddiolch i staff llinell flaen am eu gwaith caled a'u sgiliau yn ystod mis Rhagfyr heriol iawn.
"Fis diwethaf fe welwyd y galw uchaf erioed ar y gwasanaeth iechyd, y nifer fwyaf o gleifion mewn adrannau brys yn unrhyw fis Rhagfyr a'r nifer uchaf erioed o gleifion brys dros 75 oed.
"Mae 'na ostyngiad wedi bod yn y broses o drosglwyddo cleifion ond mae llawer gormod o gleifion yn treulio amser hir mewn adrannau brys yn aros am welyau mewn ysbytai.
"Rydym am i fyrddau iechyd weithio gyda phartneriaid i wella llif cleifion drwy'r system ysbytai ac allan i'r gymuned, ac rwyf wedi darparu £10m yn ychwanegol i wella cynnydd yn y maes hwn."
Rheolau pensiwn
Fe alwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i ymateb i'r effaith y mae newidiadau ar reolau pensiwn yn ei gael ar y gwasanaeth iechyd.
Yn Lloegr mae rheolwyr y gwasanaeth wedi dadlau fod y newidiadau yn golygu fod meddygon ar eu colled os yn gweithio oriau ychwanegol.
'Esgusodion newydd'
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Mae'r gaeaf yn digwydd bob blwyddyn ond heb unrhyw gapasiti wrth gefn i wasanaeth iechyd Cymru.
"Bob blwyddyn mae'r perfformiad yn dirywio o dan lywodraeth Llafur. Bob blwyddyn rydym yn cael esgusodion newydd dros pam fod y perfformiad y tro hwn yn 'ddigynsail' neu 'rhyfeddol'.
"Mae'r esgusodion yn newid, dyw'r dirywiad ddim... mae Llafur wedi methu buddsoddi'n ddigonol mewn hyfforddi a recriwtio doctoriaid.
"Maen nhw wedi methu gosod cynllun tymor hir sydd yn ariannu gwasanaethau iechyd ataliol. Maen nhw wedi methu â delio gyda phroblemau rheoli mewn byrddau iechyd sy'n methu.
"Ac maen nhw wedi gadael ein pobl fwyaf bregus i alwr drwy gau ysbytai cymunedol a gwelyau'r gwasanaeth iechyd."
'Diogelwch cleifion'
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: "Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag amseroedd aros adrannau brys er mwyn i ni wella diogelwch cleifion, cynyddu ein gallu i gadw staff a rhoi'r driniaeth orau y mae cleifion yn ei haeddu.
"Mae amseroedd aros adrannau brys yn annerbyniol. Mae pob claf sydd yn gorfod aros mewn ystafelloedd aros gorlawn mewn ysbytai yn glaf sy'n cael ei adael i lawr gan y gwasanaeth gafodd ei adeiladu i'w cefnogi."
Dywedodd Dr Jo Mower, is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru: "Rhaid i ni asesu anghenion gofal iechyd a chymdeithasol mewn ysbytai ac yn ein cymunedau.
"Heb yr adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol pwrpasol a'r effaith ar ofal brys fe fydd hyn yn arwain ar ormod o bobl mewn adrannau brys, sydd yn ei dro yn golygu fod cleifion yn aros tu allan i adrannau brys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020