Corff yr A548: Yr heddlu yn apelio am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Gronant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y brif ffordd rhwng Gronant a Phrestatyn wedi ei chau am gyfnod

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod ger ochr yr A548 yn Sir Ddinbych.

Cafodd y corff ei ddarganfod nos Wener 24 Ionawr ar ochr arfordirol y briffordd rhwng Gronant a Phrestatyn.

Mae'r heddlu yn apelio ar yrrwyr i roi deunydd iddyn nhw gafodd ei recordio ar gamerau eu ceir tra'n gyrru ar y ffordd yn y deg diwrnod diwethaf.

Mae'r ffordd bellach wedi ail agor ar ôl bod ynghau dros nos a thrwy bore Sadwrn.