Elfyn ar y blaen yn Monte Carlo
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Elfyn Evans ar y blaen yn rali Monte Carlo ar ddiwedd yr ail ddiwrnod ddydd Sadwrn 25 Ionawr.
Mae gan y gyrrwr o Ddinas Mawddwy fantais o 4.9 eiliad dros Sebastian Ogier ei gyd-aelod yn nhîm Toyota ar ôl deuddeg cymal.
Roedd hi'n ymddangos ar un adeg yn ystod cymal ola'r dydd rhwng La Breole a Selonnet mai'r Ffrancwr fyddai'n arwain y rali gan fod Evans wedi colli rhai eiliadau wrth i'w Yaris wyro oddiar y cwrs. Ond roedd Ogier yn rhy ofalus ar yr iâ ac fe fethodd fanteisio ar y cyfle i ennill tir.
Mae Thierry Neuville yn fygythiad arall i Evans fwrth i'r gyrrwr o wlad Belg ennill rhai eiliadau ar yrrwyr Toyota yn ystod y pnawn. Mae o 6.4 eiliad tu ôl i'r Cymro cyn pedwar cymal ola'r rali fory.