Pedwar o gefnogwyr Caerdydd wedi eu harestio yn Reading
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o gefnogwyr Caerdydd yn cael eu hamau o weiddi sloganau hiliol yn Stadiwm Madejski bnawn Sadwrn
Mae Heddlu Thames Valley yn ymchwilio i honiadau bod rhai o gefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd wedi gweiddi sloganau hiliol yn ystod y gêm gwpan yn Reading brynhawn Sadwrn.
Mae pedwar o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad honedig.
Cafodd bachgen 15 oed o Gaerffili, bachgen 16 oed o'r Fenni, dyn 21 oed o Grughywel a dyn 24 oed o Gaerffili eu harestio ar amheuaeth o weiddi sloganau hiliol y ystod y gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Madejski.
Mae'r pedwar bellach wedi cael eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth.
Bydd Reading yn y brifddinas eto ar 4 Chwefror ar gyfer ail chwarae'r gêm gwpan ar ôl iddi orffen yn gyfartal 1-1.