Ffermydd Lloegr yn fwy llwyddiannus wrth arallgyfeirio
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil yn honni bod diwydiant yng Nghymru ar ei hôl hi o ran hybu incwm drwy arallgyfeirio - fel creu llety i dwristiaid neu gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir.
Gallai hyn fod yn broblem o ystyried yr ansicrwydd ynghylch allforion cynnyrch o ffermydd Cymru yn y dyfodol.
Mae Undeb Ffermwyr Cymru yn dweud bod angen canolbwyntio ar sicrhau'r fargen fasnach orau gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn fwy arferol i ffermydd gynyddu eu hincwm drwy arallgyfeirio mewn meysydd sydd ddim yn draddodiadol amaethyddol.
Ymhlith yr enghreifftiau o arallgyfeirio gan ffermwyr mae codi meysydd gwersylla, agor siopau fferm neu osod tyrbinau gwynt ar eu tir.
Mae arallgyfeirio wedi cael ei annog yn eang er mwyn gwella effeithlonrwydd busnesau amaethyddol a chreu swyddi mewn ardaloedd gwledig.
Arallgyfeirio yn Nhregaron
Dywed Aled Lewis sy'n ffermio yn Nhregaron ei fod wedi arallgyfeirio er mwyn cael sefydlogrwydd wedi Brexit.
Mae e wedi mentro arbrofi ar nifer o fentrau newydd gan gynnwys buddsoddi mewn llosgydd pren i gynhyrchu trydan i'w werthu i'r grid.
"Gyda ffermio chi ddim yn gwybod be chi'n cael eich talu nes eich bod wedi gwerthu'r cynnyrch.
"'Da hwn chi'n gwybod be chi'n mynd i gael am yr 20 mlynedd nesaf - mae'n stability payment ar gyfer rhedeg y fferm," meddai.
Ychwanegodd Mr Lewis bod pris y llaeth wedi gostwng a does yna ddim sicrwydd beth fydd pris y defaid ar ôl Brexit.
"Beth ni moyn nesa yw cynhyrchu y chip 'ma i'r llosgydd ein hunain - mi fydd yn rhatach ac yn well i'r amgylchedd," ychwanegodd Aled.
Mae'r elw y mae Aled Lewis yn ei dderbyn o'r arallgyfeirio wedi helpu i fuddsoddi mewn technoleg robotig ar gyfer ei barlwr godro ac y mae hynny'n sicrhau bod y fferm yn gweithredu'n fwy effeithiol.
'Ffermydd Lloegr yn fwy llwyddiannus'
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 40% o ffermydd Cymru bellach yn cynnwys math o weithgaredd amrywiol, sydd bron yn ddwbl y ffigwr ddeng mlynedd yn ôl.
Ond mae adroddiad sydd wedi ei baratoi ar gyfer gwasanaeth Ymchwil y Senedd gan academyddion o brifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth yn awgrymu bod ffermydd yn Lloegr yn cael mwy o lwyddiant, gyda dros ddwy ran o dair yn gwneud elw drwy arallgyfeirio.
Yn ogystal yn 2017 dim ond 3.4% o gyfanswm incwm ffermydd yng Nghymru oedd yn dod o arallgyfeirio o'i gymharu â chyfartaledd o 7.7% yn Lloegr.
Roedd yr amser a'r gost o ddechrau prosiectau newydd ynghyd â lleoliadau anghysbell ffermydd Cymru'n rhwystrau yn ôl un o awduron yr adroddiad, Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth.
'Colli pobl ifanc yng nghefn gwlad'
Mae'r adroddiad yn awgrymu sefydlu "rhwydweithiau dysgu lleol" - gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i annog mwy o bobl iau i gymryd rhan mewn amaethyddiaeth.
Mae hefyd yn nodi bod angen cefnogaeth y llywodraeth i hyrwyddo prosiectau arallgyfeirio a allai sicrhau budd i'r economi wledig.
Dywedodd Dr Wyn Morris bod hyn yn "rhan o'r elfen gynaliadwy".
"Mewn ffordd ni'n edrych ar strwythur y ffermdy a bod 'na gyfleon i bobl yng nghefn gwlad - neu ni'n mynd i golli'r potensial nid yn unig i ateb gofynion amgylcheddol ond hefyd atebion i bryderon cymdeithasol a cholli'r bobl ifanc yn yr ardaloedd hyn."
Bydd Brexit yn dod â'r newidiadau mwyaf i'r diwydiant amaeth mewn dros 40 mlynedd, gyda newidiadau yn cael eu cynnig i'r cymorthdaliadau y mae ffermydd yn eu derbyn a thrafodaethau ar gychwyn ar fargeinion masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd.
Yn ôl yr adroddiad os yw'r sgyrsiau hynny gyda phartneriaid yn ei gwneud hi'n anoddach i ffermwyr Cymru allforio eu cig oen a'u cig eidion, gallai olygu bod angen i refeniw arallgyfeirio gynyddu "hyd at 10 gwaith".
"Gyda'r ansicrwydd ynglŷn â thelerau masnachu newydd mae angen i ni gael ffocws entrepreneuraidd a chanolbwyntio ar effeithlonrwydd yr hyn 'da ni'n ei wneud," meddai Dr Morris.
Mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen gweithio "tuag at ddyfodol cynaliadwy" a bod angen pob cefnogaeth gan y llywodraeth i gyflawni hyn.
"I ni fel diwydiant, ein prif nod ni ydy edrych ar ôl yr amgylchfyd a chynhyrchu bwyd."