Danny Gosset yn 'edrych ymlaen at gerdded heb faglau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pêl-droediwr Danny Gosset, sy'n derbyn triniaeth ar gyfer canser Non-Hodgkin's Lymphoma, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at allu cerdded heb faglau am y tro cyntaf mewn chwe mis.
"Mae'r gwaith caled yn parhau," meddai ar ei gyfrif Twitter ddydd Mawrth.
"Rwy'n symud i gael triniaeth radiotherapi a chael gwelliant llwyr i'r asgwrn femur.
"Ar ôl chwe mis o gemotherapi, dwi wrth fy modd i gael yr all clear. Gwellhad llwyr."
Yn 2019 roedd Gosset yn aelod allweddol o dîm Y Bala oedd yn ceisio am le yng Nghynghrair Europa.
'Methu â disgwyl'
Dywedodd ychydig wythnosau cyn diwedd y tymor ei fod yn teimlo'n rhyfedd.
"O ni'n teimlo niggle yn y goes ac o ni'n trio chwarae trwyddo fo, yn meddwl bod o yn ddiwedd y tymor, ac o'n i wedi blino 'chydig bach ella,"meddai'r chwaraewr canol cae wrth raglen Ar y Marc, Radio Cymru.
Yna fe aeth i weld ffisio clwb pêl-droed Y Bala.
"Fe wnaeth nhw ffeindio bod tiwmor ar y femur - roedd o'n dipyn bach o sioc."
Dywedodd ei fod rŵan yn "methu â disgwyl" i allu chwarae eto.
Dywedodd hefyd fod cymuned Y Bala a'r gymuned bêl-droed wedi bod yn wych ac yn gefnogol iawn yn ystod ei salwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019