Beirniadu gwasanaethau iechyd meddwl y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Iechyd meddwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr adroddiad mae staff yn "ddiobaith" y bydd y gwasanaethau'n gwella

Mae adroddiad newydd wedi beirniadu gwasanaethau cwnsela iechyd meddwl y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, gan ddweud bod amseroedd aros yn rhy hir.

Mae'n ychwanegu fod y gwasanaethau wedi'u trefnu'n wael, bod staff yn "ddiobaith" a'u bod yn derbyn ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw beth yn newid.

Fe wnaeth yr adroddiad edrych ar y therapïau seicolegol sy'n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn cydnabod y problemau a'i fod yn benderfynol o gyflawni gwelliannau.

'Hynod siomedig'

Cafodd yr adroddiad gan grŵp o ymgynghorwyr annibynnol ei gomisiynu gan y bwrdd iechyd.

Dywedodd yr awduron eu bod wedi canfod "amseroedd aros annerbyniol o hir" oherwydd system sy'n cael ei "thanariannu ac sydd ddim yn addas i'w bwrpas".

Mae therapïau seicolegol yn cynnwys unrhyw driniaeth sy'n cynnwys siarad am y cyflwr.

Dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli cleifion, bod y canfyddiadau'n "hynod siomedig".

"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi treulio bron i bum mlynedd dan fesurau arbennig," meddai'r prif swyddog Geoff Ryall-Harvey.

"Elfen fawr o'r rheswm dros hyn yw oherwydd gwasanaethau iechyd meddwl, felly mae'r canfyddiadau yma'n hynod siomedig."

'Gweithredu'r argymhellion'

Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr eu bod yn "benderfynol o wella argaeledd therapïau seicolegol a chydnabod fod rhai pobl yn ein cymunedau yn wynebu amser hir yn disgwyl am gymorth".

"Mae hon yn her ry'n ni'n rhannu gyda darparwyr cymorth iechyd meddwl y GIG ledled y DU, ac mae hefyd yn ardal sy'n cael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru," meddai.

"Fe wnaeth yr adroddiad yma ganfod bod nifer o enghreifftiau o waith positif a blaengar ar draws ein gwasanaethau.

"Mae hefyd yn codi problemau heriol rydyn ni'n benderfynol o'u taclo gyda'n gilydd gan weithredu argymhellion yr adroddiad yn llawn."