Cynllun Nyth Cwmni Theatr Frân Wen gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i droi hen eglwys Gradd II yng nghanol Bangor yn hwb creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc gam yn nes ar ôl i swyddogion cynllunio roi caniatâd i symud seddi a'r organ o'r adeilad.
Bydd sicrhau'r hawl i dynnu celfi gosod Eglwys Santes Fair yn galluogi Cwmni Frân Wen i symud ymlaen i gamau nesaf prosiect canolfan Nyth.
Y llynedd fe ddatgelodd y cwmni, sy'n arbenigo mewn theatr i bobl ifanc, fwriad i ddatblygu canolfan gwerth £3.2m, yn cynnwys "gofodau ar gyfer ymarferion, gweithdai a pherfformiadau ar raddfa fechan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau creadigol".
Bydd ceisiadau cynllunio ar wahân yn cael eu cyflwyno i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ar gyfer gweddill gwaith trawsnewid yr adeilad o fewn yr wythnosau nesaf.
Cafodd yr eglwys ar Ffordd Garth ei hadeiladu yn 1864 ar gost o £4,650, ond mae'n wag ers rhai blynyddoedd.
Yn ôl datganiad y datblygwyr fel rhan o'r cais i symud, storio ac ailddefnyddio'r organ a'r seddi, bydd yr adeilad "yn parhau i ddirywio, ac yn cael ei golli yn y pen draw" yn niffyg defnydd buddiol.
"Byddai adferiad arfaethedig yr adeilad, sydd wedi sicrhau cyllid, yn sicrhau bod yr adeilad yn parhau yng nghanol y gymuned," medd y dogfennau.
"Mae'n fwriad i sicrhau cartref newydd ar gyfer yr organ, os yn bosib, ac i ailddefnyddio cryn helaeth o'r pren sy'n cael ei storio yn y dyluniad terfynol."
Ychwanegodd bod penseiri wedi eu penodi'n ddiweddar ar gyfer y gwaith dylunio, a bod disgwyl i'r ceisiadau cynllunio llawn gael eu cyflwyno "erbyn Mawrth 2020".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019