Gweithwyr gofal 'wedi clymu bachgen 15 oed â 'cling film''

  • Cyhoeddwyd
gwrandawiadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Kyle Johnson a Richard Burnell ddim yn bresennol yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd

Clywodd panel disgyblu sut y cafodd bachgen 15 oed ei glymu gyda gorchudd plastig fel cosb gan ddau weithiwr gofal mewn cartref yng Ngwynedd.

Clywodd y panel fod Kyle Johnson a Richard Burnell wedi clymu'r bachgen gyda 'cling film' a'i gagio gyda thâp yng nghartref Arthog dros gyfnod Blwyddyn Newydd 2019.

Fe welodd mam y bachgen luniau a fideos o'r digwyddiad ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cyn cysylltu â'r awdurdodau gofal cymdeithasol.

Clywodd y gwrandawiad hefyd fod y ddau wedi eu dal ar gamera yn rhegi ar y llanc.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried os ydy'r ddau yn ffit i weithio fel gweithwyr mewn cartref gofal.

Gweithwyr yn 'cael hwyl'

Dywedodd y swyddog cyflwyno, Delme Griffiths fod Mr Johnson a Mr Burnell yn gweithio yn y cartref pan gafodd y bachgen ei roi yno ar leoliad brys.

Dywed Mr Griffiths fod fideo'n dangos y bachgen yn eistedd ar soffa gyda 'cling film' o amgylch ei freichiau a'i goesau, a thâp ar draws ei wyneb yn gorchuddio'i geg.

Clywodd y panel fod y bachgen wedi honni mai "cael hwyl" oedd y gweithwyr ac nad oedd am gymryd camau pellach yn eu herbyn.

Daeth yr heddlu i'r casgliad na fu unrhyw gamdriniaeth emosiynol ac ni ddaeth â chyhuddiadau yn erbyn y ddau.

Roedd fideos hefyd yn dangos y ddau weithiwr yn rhegi ar y llanc ac yn defnyddio geiriau rhywiol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod gan y cartref 33 o staff ac mae'n gartref i saith o bobl ifanc ar leoliadau tymor byr hyd at 90 diwrnod.

Doedd Mr Johnson heb dderbyn hyfforddiant diogelu am fod prinder staff yn y cwmni hyfforddi.

Nid oedd y ddau yn bresennol ddydd Mercher ac mae disgwyl i'r gwrandawiad bara tri diwrnod.