Cwis: Enwau Cymraeg ar leoedd yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Erioed wedi meddwl pam bod enw Cymraeg ar rai lleoedd yn Lloegr ac nid ar leoedd eraill?
Roedd yr iaith Frythoneg, fersiwn gynnar iawn o'r iaith Gymraeg, yn cael ei siarad drwy'r rhan fwyaf o orllewin Prydain a Llydaw dros fil a hanner o flynyddoedd yn ôl.
Roedd gan leoedd yn yr ardal hon enwau Brythoneg ac mae olion yr enwau hynny wedi aros hyd heddiw yn y Gymraeg, er enghraifft Caer Edin (Edinburgh), Catraeth (Catterick) ac Ystrad Clyd (Strathclyde).
Yn ddiweddarach cafodd rhai lleoedd yn Lloegr enwau Cymraeg fel cyfieithiadau uniongyrchol fel Rhydychen (Oxford) a Gwlad yr Haf (Somerset). Yn achos rhai lleoedd oedd â chysylltiad agos â Chymru oherwydd masnach, cafodd eu henwau eu Cymreigio fel Lerpwl (Liverpool) a Bryste (Bristol).
Faint wyddoch chi am enwau eraill yn Lloegr sydd ag enwau Cymraeg?
Hefyd o ddiddordeb: