Cyhoeddi canlyniadau perfformiad ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Addysg

Mae bron i hanner ysgolion cynradd yn y categori gwyrdd, yn ôl trefn gategoreiddio blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae'n dangos bod 49% angen y lleiaf o gefnogaeth, 6 pwynt cyfradd yn uwch nag yn 2019.

Ond mae 24 ysgol uwchradd (11.7%) yn y categori coch, ac angen y mwyaf o gymorth.

Mae'r manylion llawn ar gyfer pob ysgol unigol i'w gweld isod.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 609 ysgol gynradd yn wyrdd, 66 yn fwy na llynedd - a 65 yn llai yn y categori melyn.

Dim ond 20 sydd nawr yn categori coch, gyda 113 arall yn oren.

Mae hynny'n cymharu gyda 24 ysgol uwchradd coch, er bod yna chwech gwaith yn fwy o ysgolion cynradd nag uwchradd yng Nghymru.

Mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer yr ysgolion uwchradd gwyrdd - lan i 72, 4 pwynt cyfradd yn uwch na'r flwyddyn gynt.

Un ysgol arbennig sy'n y categori coch, ac mae 21 yn wyrdd.

Cafodd y system ar gyfer categoreiddio ysgolion ei sefydlu chwech mlynedd yn ol, ac mae'n asesu faint o gymorth sydd angen ar bob ysgol.

Ystyried dyfodol y system

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y cynnydd yng nghanran yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn y categori gwyrdd yn galonogol.

"Bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol o ran helpu eraill i wella, drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau a'u harferion da," meddai.

Dywedodd bod canlyniadau "dangos yn glir ein bod... yn llwyddo i feithrin gallu a sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i'w galluogi i godi safonau i bawb".

Ond mae hi'n dal yn pryderu am yr ysgolion sydd dal angen y lefelau uchaf o gefnogaeth, yn arbennig yn y sector uwchradd, ac sydd yn aml yn ymateb i heriau "cymhleth".

Oherwydd hynny, meddai, mae'r llywodraeth am gynnal arbrawf amlasiantaeth gyda nifer fach o ysgolion uwchradd, ac wrth asesu'r trefniadau newydd hynny "byddwn hefyd yn ystyried dyfodol y system gategoreiddio".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams bod y cynnydd yng nghanran yr ysgolion yn y categori gwyrdd yn galonogol

Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Bethan Lewis

Cafodd tablau cynghrair ysgolion eu dileu 20 mlynedd yn ôl, ond mae rhai'n credu bod y drefn categoreiddio yn parhau i labelu ysgolion.

Mae'r llywodraeth yn pwysleisio bod gosod ysgolion mewn categori lliw yn ffordd i roi cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen.

Ond maen nhw'n gwybod mai nid dyna'n ganiataol sut mae'n cael ei weld gan y cyhoedd.

Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog Addysg yn codi cwestiwn amlwg dros ddyfodol y drefn.

Mae'r llywodraeth yn treialu ffordd amgen i gefnogi'r ysgolion uwchradd sy'n wynebu'r problemau mwyaf dwys.

Mae'n drawiadol bod bron i hanner ysgolion cynradd bellach yn y categori gwyrdd uchaf.

Ond ymhlith y rhai uwchradd mae'r heriau mwyaf yn parhau.

O 1,247 ysgol gynradd yng Nghymru, mae 20 yn goch - llai na'r 24 ysgol goch o 205 yn y sector uwchradd.