Y Deyrnas Unedig wedi gadael yr UE ar ôl 47 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Dyw'r DU ddim bellach yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd wedi iddi adael am 23:00 nos Wener gan ddod ag aelodaeth 47 mlynedd i ben.
Ar yr un pryd cafodd baneri'r UE y tu allan i adeiladau'r Senedd a Thŷ Hywel ym Mae Caerdydd eu gostwng a'u cyfnewid am faneri Cymru.
Yn Llundain cafodd Swyddfa Cymru ei goleuo i nodi'r ymadawiad.
Catrin Haf Jones yn San Steffan
Ar ôl yr hir ddisgwyl - 1,317 o ddiwrnodau - ers Refferendwm 2016, heno fe ddaeth awr yr ymadael.
Wedi gorymdaith drwy San Steffan gan gefnogwyr yr UE y prynhawn yma, a'r hen densiynau - gadael ac aros - yn llenwi'r strydoedd am un tro ola, heno, y Brecsitwyr oedd piau Sgwâr y Senedd.
Dan lygaid Lloyd George a Churchill, fe ddaeth rhai cannoedd ynghyd ar y darn hwnnw o borfa i nodi'r unfed awr ar ddeg, i sŵn areithiau taer a morio canu, wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol - a lliwiau Jac yr Undeb yn blastar dros adeiladau a wynebau.
Ond wrth gyfri lawr i un ar ddeg o'r gloch heno, er na chanodd Big Ben, bydd y rhai tu ôl i ddrysau Rhif 10 yn ymwybodol iawn o sŵn cloc arall yn tician - wrth i'r Llywodraeth wynebu 11 mis o drafodaethau dwys gyda'r UE i geisio sicrhau cytundeb masnach cyn diwedd y flwyddyn.
Mewn araith yn gynharach ym Mae Caerdydd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd "hunaniaeth Cymru yn parhau".
Wrth drafod lle Cymru o fewn Prydain a'r byd wedi Brexit ychwanegodd bod dydd Gwener yn ddiwrnod i "edrych ymlaen, nid yn ôl"
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan, Simon Hart, y byddai llywodraeth y DU yn "gwneud ein hundeb yn gryfach".
Roedd Mr Hart ymhlith gweinidogion a fu mewn cyfarfod cabinet yn Sunderland ddydd Gwener - yn ystod cyfri'r refferendwm yn 2016 Sunderland oedd y ddinas gyntaf i ddatgan ei dymuniad i adael.
Wrth gaei ei holi gan Newyddion9, dywedodd David Davies, AS Mynwy a gweinidog yn Swyddfa Cymru: "Mae gyda ni cyfleoedd fawr iawn o'n blaen ni nawr i gymryd rheolaeth dros ein ffiniau, dros ein deddfau, dros ein arian ni.
"Dydy pethau ddim yn mynd i newid dros nos a bydd yn cymryd tipyn o amser i weld unrhyw wahaniaeth."
Bydd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod 'na "gynllun positif" i Gymru wedi Brexit, meddai ei harweinydd Adam Price.
Am 22:00, awr cyn ymadael, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson mewn neges fideo bod Brexit yn "wawr newydd".
I gydfynd â'r ymadawiad mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan gynnwys gorymdeithiau, dathliadau a gwylnosau - yng Nghymru roedd yna wylnos gan y rhai oedd yn dymuno aros yn yr UE o flaen Y Deml Heddwch.
Yn gynharach nos Wener roedd oddeutu 20 o bobl yn bresennol ym mharti Plaid Brexit mewn gwesty yng Nghaerdydd.
Dathlu gyda'r ficer
Mae heddiw yn ddiwrnod hapus i Delyth Miles, o Geredigion yn wreiddiol ond ers 1988 yn byw yn Walton-on-the-Naze.
Fel cadeirydd Ceidwadwyr Clacton-on-Sea mae hi wedi bod yn ymgyrchu i adael Ewrop ers tro.
"I fi yn bersonol y sofrin sy'n bwysig a dwi i ddim yn lico biwrocrats - sef gorfod 'neud popeth oedd yr Undeb Ewropeaidd yn gweud wrthon ni am wneud," meddai cyn i'r DU adael yn swyddogol.
"O'dd e ddim yn neud sens i fi o gwbl.
"Nos Wener bydda i'n dathlu yn yr eglwys gyda'r ficer - mae fe'n mynd i weud gweddïau am tua 22.30 yn y nos a wedyn canu'r clychau am unarddeg.
"Dwi'n edrych mla'n dros ben. Fi'n hapus. Fi'n siŵr bo' chi'n gallu gweld bo fi'n hapus o'r diwedd."
Pleidleisiodd y DU o blaid Brexit ym mis Mehefin 2016 ond bydd y wlad yn parhau o fewn yr Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl yn ystod y cyfnod trosglwyddo tan 31 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020