Y Gymraeg yn nofel ddiweddaraf Philip Pullman

  • Cyhoeddwyd
Philip Pullman yn Rhydychen, ble mae'n bywFfynhonnell y llun, Associated Press

"Roedd o'n amlwg yn awyddus i roi rhyw elfen o Gymraeg yn y nofel," meddai'r Athro Merfyn Jones wrth siarad am lyfr diweddaraf ei gyn gyfaill ysgol, Philip Pullman.

Mae'r nofel The Secret Commonwealth, yr ail yng nghyfres The Book of Dust, yn cynnwys ychydig o eiriau o Gymraeg wedi'u dweud gan ddau fwyngloddiwr o Gymru o'r enw Dafydd a Gwyn.

Yn ôl Mr Jones, hanesydd a chyn-bennaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Pullman oedd â'r syniad. Roedd o eisiau iddyn nhw siarad rhywfaint o Gymraeg."

Roedd Merfyn Jones a Pullman yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Ardudwy yn Harlech, lle cafodd Philip Pullman ei addysg uwchradd wedi i'w deulu setlo yng ngogledd Cymru.

"Roedden ni'n crwydro rownd gyda'n gilydd, yn trafod pethau fel y beirdd - mae o'n amlwg o dan eu dylanwad nhw - a phynciau fel gwleidyddiaeth a diwinyddiaeth ac athroniaeth a phopeth felly," meddai Merfyn Jones.

"Oedd o'n rhyw fath o seminar wnaeth barhau am flynyddoedd rhyngom ni."

Y Gymraeg 'ar draws y byd'

Dywedodd Mr Jones bod Philip Pullman wedi cysylltu gyda fe wrth ysgrifennu'r ail lyfr yng nghyfres The Book of Dust, sy'n gysylltiedig â'i drioleg enwog, His Dark Materials.

Ffynhonnell y llun, David Fickling Books / Penguin

"Rhyw ychydig o eiriau sydd yn y Gymraeg," meddai Mr Jones, "ond mae'n dda gweld bod awdur mor llwyddiannus, gyda llyfr sy'n mynd ar draws y byd, yn cynnwys y Gymraeg."

Er ei gefndir Cymreig, does dim llawer o Gymraeg yn ei nofelau eraill, meddai Mr Jones.

"Efallai yn un o'r nofelau cynnar, cyn iddo fod yn enwog, mae yna fwy o ardaloedd Cymraeg," meddai.

Mae Pullman wedi dweud bod y tirwedd lle cafodd ei fagu, rhwng môr a mynydd yn Ardudwy, wedi dylanwadu'n fawr arno.

Ond Rhydychen yw canolbwynt y nofelau sydd wedi ei wneud yn enwog.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llyfr cyntaf Pullman yn y gyfres His Dark Materials ei addasu fel drama ar y BBC yn 2019

Mae Mr Jones wedi ysgrifennu llyfr am hanes chwarelwyr Cymru, ond mae'n dweud mai syniad Pullman oedd y cymeriadau yn The Secret Commonwealth sy'n helpu'r prif gymeriad, Lyra.

"Ar eu ffordd i weithio mewn gwaith arian yn Sweden maen nhw ar y llong yma," meddai Mr Jones.

"Maen nhw'n siarad rhywfaint o Gymraeg, rhyw un frawddeg ac wedyn ambell ebychiad yn Gymraeg.

"Mae'r llyfr diwethaf 'ma am y Secret Commonwealth yn llyfr eithaf tywyll a dweud y gwir o'i gymharu â'r gweddill.

"Mae'n amlwg yn adlewyrchu'r byd 'da ni'n byw ynddo erbyn hyn ac mae'n llawn bygythiadau.

"Mae'n ddiddorol mai Dafydd a Gwyn yw'r ychydig gymeriadau hapus sydd yn y nofel, ac maen nhw'n achub Lyra pan mae hi ar gwch. Ac maen nhw'n gefnogol iddi hi.

"Ar y cychwyn mae'n ymddangos eu bod nhw'n mynd i'w bygwth hi, ond wedyn dydyn nhw ddim. Beth maen nhw'n ei wneud ydy ei harbed hi rhag niwed.

"Mae'n ddiddorol eu bod nhw'n cael eu gweld fel pobl gefnogol a chroesawgar iddi."

Gydag un nofel arall i ddod yn y gyfres, meddai Mr Jones: "'Da chi byth yn gwybod os ddaw'r cymeriadau yma nôl..."

Hefyd o ddiddordeb: