Robert Graves: Y dyn tu ôl i stori cadoediad Nadolig 1914

  • Cyhoeddwyd
Robert Graves
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennodd Graves stori fer am gadoediad y Nadolig

Erbyn hyn, mae cadoediad Nadolig 1914 yn adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom, diolch i hysbysebion teledu Nadoligaidd cwmnïau fel Sainsburys.

Er hyn, cafodd y stori am filwyr Prydain a'r Almaen yn dod at ei gilydd ar noswyl Nadolig 1914 ei hanghofio yn y degawdau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a dim ond gyda chyhoeddi'r llyfr byr A Christmas Truce gan yr awdur a'r bardd rhyfel Robert Graves yn 1962 y daeth y digwyddiad i nôl i gof.

Cafodd drama Joan Littlewood, Oh! What a Lovely War (1963) ei datblygu y flwyddyn wedyn hefyd gyda rhan helaeth am stori cadoediad y Nadolig ynddi.

Er nad oedd yn rhan o'r cadoediad ei hun, roedd Robert Graves yn gapten yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'i lyfr sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o'r hanes.

Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Graves i Harlech gyda'i deulu, ac arhosodd yno tan 1929

Graves a Chymru

Ond dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn ymwybodol o gefndir Graves, a'i gysylltiadau gyda Chymru.

Er mai Sais o Lundain oedd yn wreiddiol, symudodd ei deulu i dŷ o'r enw Erinfa yn Harlech pan roedd yn blentyn.

Yn ogystal, roedd ei dad, Alfred Perceval Graves, yn academydd Celtaidd a gafodd ei ethol i Orsedd y Beirdd.

'Trobwynt' 1916

Cafodd Graves ei anfon i ymladd yn y rhyfel fel cadfridog i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Yn ystod brwydr y Somme yn 1916, ar ôl cael ei anafu, cafodd ei gorff ei roi gyda chyrff eraill gan feddwl ei fod wedi marw.

Yn ôl yr academydd Mary-Ann Constantine: "1916 oedd y flwyddyn ofnadwy pan gafodd ei anafu'n ddifrifol.

"Ond wedyn gwnaeth un doctor sylweddoli ei fod yn symud tipyn bach, a thrwy lwc, a rhyw fath o wyrth, dyna fe'n dod 'nôl fel petai."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Credai'r swyddogion bod Graves wedi marw ar ôl cael ei anafu yn ystod brwydr y Somme

'Dihangfa o ryfel'

Dychwelodd Graves i Harlech yn 1916 i wella gyda'i gyfaill, y bardd Siegfried Sassoon.

Dywed Dr Constantine fod Sassoon hefyd wedi ei glwyfo yn seicolegol ac aeth y ddau i wella ym mryniau Harlech ble roedden nhw'n cerdded ac yn ysgrifennu, meddai Dr Constantine.

Yn Harlech ysgrifennodd Graves y cerddi Rocky Acres (1920) a Letter From Wales (1925).

Yn ogystal, ysgrifennodd ei fywgraffiad rhyfel Good-bye to All That, ei gyhoeddiad mwyaf enwog, sy'n cynnwys disgrifiadau difyr o'i gyflwr meddyliol wedi'r rhyfel a'i gysylltiad â thirwedd Harlech.

Yn ôl Dr Constantine, Harlech oedd ei "ddihangfa o ryfel," yn ogystal â bod "yn ddihangfa o Brydain oedd ddim yn deall beth roedd y bois yn dioddef.

"Roedd real disconnect rhwng byd cymdeithasol Prydain, oedd ddim yn gwybod am y rhyfel... Doedden nhw ddim yn gweld y gwaed, doedden nhw ddim yn gweld y lladdfa.

"Felly roedd rhwyg yn ei ben pan ddychwelodd e adref; rhwng y teulu a'r gymdeithas sydd dal yn mynd i'r capel a'r eglwys, ac sydd yn dal i wneud y pethau parchus, a'r massacres mae 'di bod yn rhan ohonyn nhw allan yna, a'r anaf i'w gorff."

Disgrifiad o’r llun,

Parhaodd diwylliant a llenyddiaeth Cymraeg i ysbrydoli Graves trwy gydol ei fywyd

Diwylliant Cymraeg

Diolch i'w dad, mae'n debyg, datblygodd Graves ei ddiddordeb mewn chwedlau Celtaidd.

"Roedd Graves wedi tyfu lan gyda phethau fel y Mabinogi ac yn gwybod mwy am draddodiad Cymru na'r rhan fwyaf o Saeson heddiw," meddai Dr Constantine.

"Roedd ganddo ddiddordeb yn y Gymraeg... roedd yn deall cynghanedd ac roedd wedi dysgu sut mae'n gweithio."

Yn hwyrach yn ei fywyd, ymddangosodd Chwedl Taliesin fel dylanwad cryf yn ei lyfr, The White Goddess (1948).

Un arall o'i weithiau oedd nofel hanesyddol I, Claudius (1934), a gafodd ei gwneud yn gyfres deledu enwog yn y 1970au gyda Siân Phillips.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harlech yn ddihangfa o ryfel i Graves

"Pan mae dy ben yn llawn sŵn a gwaed a rhyfel roedd gwacter y lle'n bwysig," meddai Dr Constantine.

"Roedd yn ddyn dysgedig a dyn â diddordeb mewn diwylliannau eraill, ond y dirwedd oedd yn bwysig iddo fe - y peth mwyaf dwi'n meddwl: wynebu'r creigiau, a'r tir slightly unforgiving, a'r gwacter oedd yn bwysig. "

Er na ddaeth fyth yn ôl i Brydain wedi iddo symud i Majorca i fyw am weddill ei oes, dewisodd dŷ yn Majorca hanner ffordd i fyny bryn yn edrych dros môr, mewn tirwedd sy'n debyg iawn i Harlech, meddai Dr Constantine.

"Roedd cysylltiadau gyda'r lle [Harlech] oedd yn ei atgoffa o Gymru, o'r môr a'r awyr a'r mynyddoedd," meddai.

Hefyd o ddiddorden: