Diflaniad Michael O'Leary: Heddlu'n cael mwy o amser i holi dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i gwestiynu dyn sydd wedi ei arestio yn dilyn diflaniad dyn yn Sir Gâr.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw'n parhau i chwilio am Michael O'Leary, 55 oed o Nantgaredig, sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun, 27 Ionawr.
Cafodd dyn 52 oed o ardal Caerfyrddin ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn eu bod wedi cael caniatâd gan y llys i holi'r dyn ymhellach.
Mae teulu Mr O'Leary wedi cael gwybod am y diweddariad, ac maen nhw'n cael eu cynorthwyo gan swyddogion arbenigol.
Cadarnhaodd yr heddlu fod tîm o swyddogion yn chwilio mewn "nifer o leoliadau o gwmpas Caerfyrddin".
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd gerbyd Mr O'Leary - Nissan Navara arian (uchod) - rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 20:00 a 22:00 nos Lun.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Jones bod eu hymchwiliad yn un "trwyadl sy'n symud yn gyflym".
"Ry'n ni'n ystyried yr holl ffeithiau a'r dystiolaeth o'n blaenau, sy'n cynnwys cwestiynu dyn allai fod â gwybodaeth allweddol all ein helpu," meddai.
"Rydyn ni'n deall y gallai'r datblygiad diweddaraf achosi pryder i'r gymuned, ond hoffwn eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ganfod atebion i deulu Mr O'Leary."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020