Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Dagenham & Redbridge
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam a Dagenham & Redbridge setlo am bwynt mewn gêm flêr heb fawr o gyfleoedd ar y Cae Ras.
Mae'r Dreigiau bellach yn ddiguro mewn tair gêm ond yn disgyn i lawr i'r 19eg safle, un lle a dau bwynt ar y blaen i Dagenham.
Daeth y chwaraewr canol cae Jay Harris ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner i wneud ei ymddangosiad cyntaf i Wrecsam mewn pum mlynedd.
Ail-ymunodd Harris â'r Dreigiau o Macclesfield Town ar ddiwrnod cau'r ffenestr drosglwyddo.